Pwy yw tim mwyaf peniog Cymru?

Dyma gwis ar gyfer plant blwyddyn 6 yn profi eu gwybodaeth gyffredinol am Gymru (a weithiau y tu hwnt!) mewn ffordd hwyliog a rhwydd iawn. Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru wedi bod yn cysylltu gydag ysgolion ar draws y wlad a chael dros 3,500 yn cystadlu eleni. Erbyn hyn, mae’n rhaid cael gwybod pwy fydd drwyddo i’r rownd derfynol fydd yn cael ei gynnal yn fyw dros gyfryngau cymdeithasol y Mentrau Iaith ar Fawrth 28ain.

“Mae’r cyfle i wneud y Cwis yn fyw dros dechnoleg unwaith eto yn golygu y gall pawb weld ei gilydd ar draws Cymru” esbonia Heledd ap Gwynfor, cydlynydd ar ran Mentrau Iaith Cymru “Byddwn yn rhannu’r Cwis drwy kahoot ar holl gyfryngau cymdeithasol y Mentrau Iaith fel y gall pawb sydd yn dymuno gwneud, drio ateb y cwestiynau – a thrio curo’r pencampwyr! Dy’n ni’n hynod ffodus cael Owain Williams a Mari Lovgreen i arwain ar y cwestiynau, mae’r holl beth yn gyffrous iawn!”

Dydd Gwener hwn, Mawrth 11eg, bydd y rowndiau rhanbarthol yn digwydd – ysgolion y gogledd, y de ddwyrain a’r de orllewin yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn cael dau ysgol o bob rhanbarth i gystadlu yn rownd derfynol y Cwis ar yr 28ain o’r mis hwn.

Ymateb un athro o Ysgol y Cwm, Abertawe oedd: “‘DIOLCH ENFAWR am gynnal y cwis Dim Clem gyda ni. Roedden ni wedi mwynhau’n fawr a bu trafod brwd yn ein dosbarth prynhawn yma”. Mae’r plant yn amlwg wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y Cwis poblogaidd hwn – gan ddysgu llawer am Gymru hefyd wrth gwrs.

Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu yn y rowndiau rhanbarthol yr wythnos hon, ac edrychwn ymlaen at y rownd derfynol byw ddiwedd y mis!