Mentrau Iaith yn gosod targed i helpu ymgyrch Common Voice Cymraeg

Mae Common Voice Cymraeg yn gofyn i siaradwyr y Gymraeg ym mhob cwr o’r byd i chwarae eu rhan wrth ddiogelu dyfodol digidol yr iaith Gymraeg trwy recordio a dilysu lleisiau. Mozilla, y cwmni meddalwedd, sy’n arwain ar y prosiect hwn mewn ymdrech i hybu gwasanaethau digidol yn yr iaith Gymraeg.

Y nod yw cynorthwyo technolegau – gan gynnwys ffonau, cyfrifiaduron a systemau electronig eraill – i ddeall sut mae pobl yn siarad Cymraeg a gwneud technolegau adnabod llais yn agored ac o fewn cyrraedd i bawb.

Er mwyn cyrraedd y nod hwn, bydd staff y Mentrau Iaith yn ceisio cyfrannu 22 awr mewn 22 wythno gan ddechrau ar Fehefin 26ain.

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;

“Gyda thechnoleg yn chwarae rhan flaenllaw yng nghartrefi Cymru erbyn hyn mae angen sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn rhan o’r byd hwn. Credwn fel rhwydwaith o Fentrau sy’n gweithio er mwyn cryfhau a chynyddu’r defnydd o’r iaith yn ein cymunedau, fod gennym rol bwysig iawn yn rhan o’r datblygiad hwn. Mae gosod y targed yma yn rhoi hwb i’r holl staff i gyfrannu at ddyfodol yr iaith ym myd technoleg wrth i ni geisio nesau at filiwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Mae’r mentrau eisoes wedi bod yn weithgar gyda’r prosiect Common Voice ers i un o arweinwyr y prosiect, Rhoslyn Prys, gyflwyno’r adnodd i’r Swyddogion Maes ym mis Rhagfyr 2018. Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi mynd â’r prosiect tu hwnt i’r swyddfa gan annog carcharorion a staff carchar y Berwyn sy’n medru’r Gymraeg i gyfrannu a mentrau eraill yn defnyddio’r prosiect gyda grwpiau dysgwyr a gwirfoddolwyr.

Dywed Rhoslyn Prys o Meddal.com;

“Dyma gyfle euraidd i ni gyd fel Cymry Cymraeg a dysgwyr i allu cyfrannu at broject fydd yn dod â budd cyfoethog i ni yn ein bywydau bob dydd. Gyda thwf technoleg llais, p’un ai ar gyfer cefnogi unigolion sydd ag anableddau lleisiol neu glyw, neu ar gyfer rhyngweithio gyda pheiriannau yn Gymraeg mae hyn yn ffordd allwn ni gyfrannu ato’n uniongyrchol. Ymlaen!”

Beth am osod her gyda’ch cydweithwyr? Cymrwch olwg ar sut i gyfrannu yma.