Sêr ifanc Cymru! Mae Clwb Theatr Cymru yn dychwelyd y Nadolig hwn gyda llond sach o hwyl a sbri.

Yn ystod gwyliau’r haf eleni, daeth 118 o blant ledled Cymru at ei gilydd dros Zoom i berfformio, dawnsio a joio. Nawr, ry’n ni wrthi’n cynllunio gweithdai newydd Nadoligaidd i roi cyfle i berfformwyr ifanc ledled y wlad fynd i hwyl yr ŵyl.

Dyma rai o uchafbwyntiau mynychwyr Clwb Theatr Cymru yr haf:

Bob dydd Mercher yn ystod gwyliau’r Nadolig, bydd arbenigwyr o’r celfyddydau – Richard Elis a Jalisa Andrews – yn arwain sesiynau creadigol, sy’n llawn sbort a sbri. Bydd Sian Elin (Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru) hefyd yn y ddwy sesiwn i roi croeso cynnes i chi gyd.

  • 23 Rhagfyr 2020: Creu Cymeriadau gyda Richard Elis
  • 30 Rhagfyr 2020: Dawnsio gyda Jalisa Andrews

Mae Clwb Theatr Cymru Nadolig yn rhad ac am ddim ac mae’r gweithdai yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r sesiynau’n addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6 – a bydd y cyfan yn digwydd dros Zoom.

Ry’n ni eisiau gwneud ein sesiynau yn hygyrch i bawb ac mae hynny’n golygu trefniadau gwahanol i wahanol unigolion. Felly plîs cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

Cysylltwch â’ch Menter Iaith leol i gadw lle erbyn 14 Rhagfyr 2020.

Mae Clwb Theatr Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru. Ers nifer o flynyddoedd, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama bob wythnos. Clwb Theatr Cymru oedd y tro cyntaf i’r cwmni weithio mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon. Ry’n ni’n falch o gydweithio unwaith eto dros y Nadolig.