Eleni bydd ‘Bwrlwm’, cynllun chwarae agored gwyliau ysgol Menter Caerdydd a Menter Iaith Bro Morgannwg, yn cael ei chynnal ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd yn ystod hanner tymor Mai 26 i Fehefin 1af, 2019.

Mae’r cynllun yn cynnig gweithgareddau i blant oed cynradd yn ystod gwyliau ysgol am ddim, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Gydag Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i fae’r brifddinas, gan gynnig mynediad am ddim am y tro cyntaf eleni, gwelodd y fenter gyfle i gydweithio gyda’r Urdd a chynnal ‘Bwrlwm’ fel rhan o’r maes.

Dywed Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg;

“Mae’n wych gallu cyfuno’r ddwy weithgaredd a chynnal ein gweithgareddau gofal fel rhan o’r maes eleni. Rydym yn gobeithio bydd y profiad yn un arbennig i’r plant sy’n mynychu’r cynlluniau ym mhob rhan o’r ddwy sir a chymryd rhan yng nghyffro a hwyl Eisteddfod yr Urdd.”

Meddai Sian Lewis , Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

“Fel un oedd yn arfer gweithio i Fenter Caerdydd rwy’n ymwybodol iawn o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i sicrhau gweithgareddau bywiog trwy gyfrwng yr Gymraeg i blant a phobl ifanc yr ardal. Fel rhiant, dw i hefyd yn ymwybodol iawn o werth gofal plant dibynadwy ac o safon yn ystod gwyliau’r ysgol.  Mae’n wych felly gallu croesawu cynllun Bwrlwm i Faes Eisteddfod yr Urdd a dw i’n siŵr y bydd yn brofiad arbennig i’r plant sy’n manteisio o’r cynllun ac yn gyfle gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau yn gyffredinol.”

Bydd Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg hefyd yn cynnal stondin ar y maes ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru. Bydd y stondin yn codi ymwybyddiaeth ymwelwyr yr eisteddfod o waith y mentrau lleol a mentrau iaith eraill dros Gymru a sut mae nhw’n gweithio i gynyddu a chryfhau’r Gymraeg yn eu cymunedau. Bydd cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd ateb y cwestiwn ‘Beth yw Menter Iaith?’ drwy wneud amryw o weithgareddau ar y stondin.