Bydd pob diwrnod ar stondin y Mentrau Iaith a Cered – Menter Iaith Ceredigion ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, yn canolbwyntio ar themâu gwahanol. 

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio at gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau ym mhob agwedd o’n bywydau, a bydd y stondin yn y brifwyl yn adlewyrchu hynny.

Bydd pob diwrnod yn wahanol iawn ar ein stondin” esbonia Non Davies, Rheolwraig y Fenter Iaith leol yng Ngheredigion. “Bydd yr arlwy yn cynnwys gweithgareddau at ddant pawb – o Chwaraeon i Gerddoriaeth, Garddio a Thafodieth! Rydyn ni’n annog pawb i alw draw am sgwrs ac i ddysgu mwy am waith Cered a’r Mentrau Iaith.

Mae Steff Rees yn Swyddog datblygu cymunedol gyda’r Fenter, ac yn edrych ymlaen at ddarlledu eitemau yn fyw o’r stondin ar faes yr Eisteddfod ar y radio lleol, meddai:

Rydym fel Menter Iaith wedi meithrin perthynas agos gyda Radio Aber dros y blynyddoedd diwethaf ar raglenni megis Cefn y Rhwyd sef ein sioe sgwrsio am bêl droed wythnosol. Byddwn yn darlledu’r sioe yn fyw o’n stondin ar y Maes eleni gyda phanel arbennig o hoelion wyth timau pêl droed ardal Tregaron. Mae croeso i unrhyw un allu gwirfoddoli ar Radio Aber, a bydd sgwrs gyda Sam Thomas, Cyfarwyddwr Radio Aber yn digwydd yn fyw hefyd ar fore dydd Iau, yn sôn am y cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli gyda’r orsaf.”

Mae’r dydd Iau am fod yn ddiwrnod ‘gwirfoddoli’ ar faes yr Eisteddfod gyda’r Mentrau Iaith yn arwain ar ymgyrch i ddenu mwy o wirfoddolwyr at y Gymraeg yn gyffredinol. Bydd lansiad Gwirfoddoli a’r Gymraeg am 11.30am ar stondin y Mentrau Iaith (C9) a’r diwrnod cyfan wedi ei ymrwymo at y thema Gwirfoddoli. Esbonia Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd sydd wedi bod yn arwain ar yr ymgyrch hwn:

Er mwyn gweld a chael cynnydd mewn pethau sy’n digwydd yn Gymraeg ar hyd a lled Cymru, mae’n rhaid wrth wirfoddolwyr – mae’r Gymraeg yn ddibynnol ar bobl ‘pob dydd’ i gymryd rhan ac i arwain. Mae’r cyfnod ôl-bandemig yn gyfle i ail danio’r diddordeb i gynnal pethau yn gymunedol unwaith eto.”

Mae nifer o’r Mentrau Iaith yn sefydliadau sydd yn ddibynnol ar wirfoddolwyr, fel esbonia Iwan Hywel:

Mae’n sefyll i reswm, po fwyaf o wirfoddolwyr sydd, y mwyaf o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg all y Mentrau eu cynnig yn ein cymunedau. Os oes diddordeb gwirfoddoli neu helpu Menter yn eu gwaith, dewch draw i’r stondin ar y maes am sgwrs, neu cysylltwch efo’ch Menter Iaith leol.

Bydd stondin y Mentrau Iaith a Cered ar safle C9 a C10 – croeso draw!