Datganiad i’r Wasg:
Mae Mentrau Iaith Cymru yn croesawu Bil Addysg a’i ddyhead i ‘bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol.’ Mae’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn siarad yn ddyddiol gydag oedolion ifanc sy’n difaru na chawson nhw’r cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg. Ac er fod y Mentrau’n darparu cyfleoedd i oedolion i ddefnyddio’r Gymraeg, i ddod yn siaradwyr mwy hyderus, mae pawb yn gwybod ei fod yn llawer haws i ddysgu iaith o oed cynnar. Ond, law yn llaw â’r ymdrechion yn yr ysgol, mae angen profiad cyfan o’r Gymraeg ar blant a phobl ifanc. Heb ofodau Cymraeg, lle gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol a rhwydd, bydd pobl ifanc ddim yn dod yn siaradwyr hyderus pa bynnag mor effeithiol mae’r newidiadau y mae’r bil addysg yn eu cyflwyno. Dywed Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, ‘Mae rôl y Mentrau Iaith mewn creu profiad Cymraeg lle gall dysgwyr ifanc gael eu trochi yn hanfodol. Cymerwch Tafwyl fel enghraifft. Mae’n enghraifft wych o’n gwyliau cerddorol Cymraeg ledled Cymru’n sy’n gwneud y Gymraeg yn berthnasol, ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, ac yn ddiofyn. Mae’r Mentrau Iaith hefyd yn cefnogi ysgolion ar draws Cymru i atgyfnerthu defnydd anffurfiol y Gymraeg, ond mae gymaint mwy y gallwn ni wneud’. Mae enghreifftiau di-ri fel Menter Cwm Gwendraeth Elli, sy’n cefnogi Ysgol Saesneg Bryngwyn i gyflwyno mwy o Gymraeg i’r plant, ond gallwn ni ddim gwneud y gwaith yma’n i gefnogi’r Bil Addysg yn iawn heb fwy o adnoddau. Dywed Dewi Snelson, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, ‘Mae angen ymrwymiad ariannol gan yr Awdurdodau Lleol ac ymrwymiad mwy sylweddol o’r Llywodraeth er mwyn ein galluogi ni i greu profiad holistaidd o’r Gymraeg i blant a phobl ifanc Cymru, yn ogystal â’u teuluoedd. Mae gyda ni’r cysylltiadau gyda’r ysgolion a’r gymuned ar draws Cymru, ond rydyn ni angen mwy o adnoddau’.

Enghraifft o waith Menter Iaith yn cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r Gymraeg yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli

Torfeydd Tafwyl 2024: Enghraifft o wyliau cerddorol y Mentrau Iaith sy’n creu gofodau Cymraeg i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol:
Y Mentrau Iaith | Cryfhau’r Gymraeg yn y Gymuned
Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, Myfanwy@mentrauiaith.cymru (07817 439460)
Dewi Snelson, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, dewi@mgsg.cymru