Mae WYTH yn brosiect newydd sbon i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig. Nod y cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng Menter Iaith Maldwyn, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwlwm Celtaidd a nifer o artistiaid llawrydd yw dathlu dawnsio gwerin a chlocsio a chreu cyfleoedd i dorri tir newydd yn y maes.

Ariennir y prosiect trwy gynllun nawdd Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd sawl cainc wahanol i’r prosiect. Gellir dilyn y datblygiadau diweddaraf ar Instagram, Twitter a Facebook y prosiect @8WYTH.

Mae’r WYTH yn cael ei lansio gyda dau gyhoeddiad cyffrous tu hwnt.

  1. COMISIWN WYTH – £5000 ar gael i ddatblygu sioe neu berfformiad sy’n cyfuno dawnsio traddodiadol gydag unrhyw genre arall i’w berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd mis Awst yma. Mwy o wybodaeth yma.
  2. TWMPDAITH- Swyddi haf ar gyfer wyth o gerddorion neu ddawnswyr ifanc rhwng 16-25 (ish). Derbynnir wythnos o hyfforddiant cyn teithio o amgylch Cymru yn cynnal twmpathau. Mwy o wybodaeth yma.

Meddai Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn a chydlynydd y prosiect, “Mae dawnsio gwerin, clocsio a thwmpathau yn rhan mor bwysig o’n hunaniaeth a threftadaeth fel Cymry. Ond yn fwy na hynny, mae dawnsio yn gymaint o hwyl ac yn llonni’r enaid yn ddi-os. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n gorfforol bosib i neb ddawnsio a pheidio taro gwên! Mae prosiect WYTH yn gyfle i ni fod yn chwareus ac yn arbrofol gan fynd a dawnsio traddodiadol Cymreig i dir newydd. Dwi’n methu aros i weld elfennau gwahanol y prosiect yn datblygu.”

Ychwanegodd Sioned Edwards ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, “Prosiect ymgysylltiol fydd WYTH, yn dychmygu o’r newydd sut i feithrin talent greadigol ym maes dawnsio traddodiadol Cymreig; datblygu rhwydwaith o hyfforddwyr i gryfhau’r sector gymunedol, creu llwybr creadigol i ddawnswyr, creu seilwaith cadarn ar gyfer datblygu, hyrwyddo a diogelu traddodiad i’r dyfodol a chynnig cyfleoedd uchelgeisiol proffesiynol.” Nododd Rhian, “Dewiswyd yr enw WYTH ar gyfer y prosiect gan fod y ffigwr wyth yn batrwm cyson a hollbwysig mewn dawnsio gwerin a chlocsio Cymreig. Mae hefyd yn adlewyrchu’r modd yr ydym yn gobeithio y bydd dawnsio traddodiadol yn cael ei blethu gyda bob math o genres eraill yn ystod y prosiect. Mae gwaith celfydd y dylunydd Efa Lois ar logo WYTH yn fendigedig. Mae’r holl ddelweddau bychain o fewn y siâp wyth yn adlewyrchu patrymau dawns, ac enwau alawon a dawnsfeydd Cymreig. Mae rhywbeth gwahanol yn neidio allan bob tro dwi’n edrych arno!”