Cefndir
Mae Mentrau Iaith yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau lleol. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yn 1991, ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Lleolir swyddfa Menter Iaith Sir Ddinbych yn Ninbych, ac rydym yn gweithio ar draws y sir o Brestatyn a Rhyl yn y gogledd, i fyny Dyffryn Clwyd ac at Llangollen a Chorwen yn y de.


Gwaith Menter Iaith Sir Ddinbych

Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg sy’n nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Ein prif feysydd gwaith yma yn Sir Ddinbych yw:

Teuluoedd: Mae ein gweithgareddau a phrosiectau yn annog trosglwyddo’r iaith yn y cartref, tynnu sylw at fanteision dewis Addysg Gymraeg, a chefnogi defnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau gofal a chwarae.

Plant a Phobl Ifanc: Rydym yn gweithredu i gynyddu’r ddarpariaeth hamdden a chymunedol ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn rhoi cyfle iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol tu allan i’r ysgol.

Y Gymuned: Trwy gydweithio â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn eu cymunedau eu hunain rydym yn gweithio i gryfhau’r iaith fel iaith gymunedol, naturiol. Mae gan y Mentrau Iaith amcanion sy’n gweithio tuag at annog i bobl ddyblu eu defnydd o’r Gymraeg.

Prif Gyfrifoldebau’r swydd:

  • Gweithio gyda staff eraill Menter Iaith Sir Ddinbych i drefnu a chynnal gweithgareddau blaengar a phoblogaidd sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu naturiol a hwyliog;
  • Datblygu a gwerthuso gweithgareddau penodol a flaenoriaethwyd yng nghynlluniau Menter Iaith Sir Ddinbych, yn arbennig rhai i blant, teuluoedd a phobl ifanc;
  • Cynorthwyo’r Swyddog Cyllid i reoli gwariant cyllideb gweithgareddau’r Fenter;
  • Cydweithio â phartneriaid y Fenter i gefnogi unrhyw weithgaredd sy’n bodoli eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol;
  • Cynorthwyo i greu a pharatoi deunyddiau marchnata a datblygu ymgyrchoedd marchnata penodol fel bo’r angen;
  • Cynorthwyo i weithredu Cynllun Marchnata’r Fenter a chodi ei phroffil lleol a chenedlaethol;
  • Mynychu cyfarfodydd ar ran y Fenter fel bo angen.

Manyldeb Person
Meini prawf angenrheidiol:

  • Yn ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo
  • Profiad o weithio’n ddwys gyda theuluoedd, plant a/neu bobl ifanc
  • Yn meddu ar syniadau blaengar a chreadigol
  • Yn gallu gweithio’n effeithiol ac yn hyblyg fel aelod o dîm ac yn annibynnol
  • Yn gallu cydweithio ac ysbrydoli eraill
  • Yn drefnus ac effeithiol
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da, a hynny’n rhugl ddwyieithog Cymraeg / Saesneg) ar lafar ac ysgrifenedig
  • Yn meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth da
  • Trwydded yrru a defnydd o gar ar gyfer teithio perthnasol i, ac o fewn y gwaith yn hanfodol

Meini prawf manteisiol:

  • Byddai adnabyddiaeth o’r ardal yn fanteisiol
  • Byddai Gradd neu safon addysg uchel o fantais
  • Byddai cymhwyster a / neu brofiad o ddiogelu plant yn fanteisiol

Rhagor o fanylion
Swydd Newydd: Swyddog Datblygu Cymunedol | Menter Iaith Sir Ddinbych

Os hoffech ragor o fanylion am y swydd neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â
Ruth Williams, Prif Swyddog ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru