Teitl y swydd: Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cymraeg i Bawb (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru)
Cyflogwr: Mentrau Iaith Cymru
Lleoliad: Hybrid – gweithio o bell a’r cyfle ar gyfer gweithio desg boeth yn swyddfeydd Menter Iaith Sir Caerffili; cyfarfodydd personol achlysurol ledled y rhanbarth yn ôl yr angen.
Y sefydliad sy’n lletya’r swydd ranbarthol, ar ran y bartneriaeth, yw: Menter Caerffili, Porth Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7EH.
Math o gontract: Llawn-amser
CYFLOG: £28,000 -£32,000 y flwyddyn
Dyddiad Cau: Mehefin 19eg 5pm
Cyfweliadau: Mehefin 24ain (mewn person yn swyddfa Menter Caerffili, Porth Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7EH).
Disgrifiad Swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata creadigol a threfnus iawn i gefnogi Partneriaeth Cymraeg i Bawb. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfathrebu dwyieithog gymryd yr awenau wrth hyrwyddo ein gwaith ar
draws gwahanol lwyfannau digidol. Byddwch yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o gynllunio, creu a rhannu cynnwys ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i Bawb (gan gynnwys YouTube, Facebook, X/Twitter, Instagram, TikTok, Bluesky, ac eraill fel y bo’n berthnasol) yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch hefyd yn helpu i gynnal a diweddaru cynnwys ein gwefan yn rheolaidd, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn gyfredol. Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo’r Bartneriaeth i ddatblygu a pharatoi cynigion cyllid, gan helpu i sicrhau twf ac effaith barhaus gweithgareddau Cymraeg i Bawb.
Prif Gyfrifoldebau
- Creu ac amserlennu cynnwys diddorol a dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ar
gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i Bawb a datblygu rhai newydd
ar lwyfannau newydd yn ôl yr angen. - Monitro ymgysylltiad cyfryngau cymdeithasol ac ymateb yn briodol i
negeseuon a sylwadau. - Helpu gyda diweddaru a chynnal gwefan Cymraeg i Bawb, gan sicrhau
hygyrchedd a defnyddioldeb ar draws dyfeisiau. - Gweithio’n agos gyda phartneriaeth Cymraeg i Bawb a phartneriaid eraill i
gasglu straeon, delweddau, newyddion perthnasol, datblygiadau a
diweddariadau i’w rhannu ar-lein yn rheolaidd. - Datblygu ymgyrchoedd digidol i gefnogi digwyddiadau, rhaglenni a mentrau
allgymorth. - Monitro tueddiadau digidol a gwneud argymhellion ar gyfer cynyddu
ymgysylltiad a gwelededd ar-lein. - Gan weithio gyda’r Bartneriaeth, cynghori a chefnogi awdurdodau lleol ardal y
De Ddwyrain gyda chynlluniau hyrwyddo addysg Gymraeg. - Cefnogi’r gwaith o ddatblygu ac ysgrifennu ceisiadau cyllid grant mewn
cydweithrediad llawn â phartneriaid Cymraeg i Bawb. - Mynychu cyfarfodydd diweddaru gyda’ch rheolwr llinell, fel arfer trwy
Microsoft Teams neu Zoom, a chyfarfodydd y Bartneriaeth lawn sydd wedi’u
trefnu (fel arfer bob chwarter), a bydd rhai ohonynt mewn person.
Manyleb Person
Meini Prawf Hanfodol
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a rheoliadau ynglŷn â’r Gymraeg ac Addysg
Cyfrwng Cymraeg. - Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chynnwys gwefannau
dwyieithog. - Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda sgiliau
ysgrifennu a phrawfddarllen da yn y ddwy iaith. - Dealltwriaeth gref o strategaethau cyfathrebu digidol ac ymgysylltu â’r
gynulleidfa. - Y gallu i weithio’n annibynnol a rheoli eich amser eich hun yn effeithiol.
- Yn gyfforddus yn gweithio o bell, gyda mynediad at gysylltiad rhyngrwyd
dibynadwy. - Parodrwydd a gallu i fynychu cyfarfodydd ar-lein ac mewn person yn ôl yr
angen.
Meini Prawf Dymunol
- Dealltwriaeth o hyrwyddo’r Gymraeg a datblygu cymunedol.
- Gwybodaeth am safonau hygyrchedd mewn cynnwys digidol.
- Cyfarwydd ag offer fel HTML, Canva, Meta Business Suite, neu lwyfannau
amserlennu. - Profiad o gynorthwyo gyda cheisiadau am gyllid a/neu grant a phrosesau
ffrydiau ariannu, neu’r parodrwydd i ddatblygu’r sgiliau hyn.
Trefniadau Gwaith
- Mae hon yn swydd gweithio o bell.
- Bydd gofyn i chi fynychu cyfarfodydd diweddaru rhithwir rheolaidd gyda’ch
rheolwr llinell, a chyfarfodydd Partneriaeth wedi’u trefnu, mewn person (ad
dalir costau teithio lle bo hynny’n berthnasol).
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, gan egluro sut rydych chi’n bodloni manyleb y person, i: lowrijones@mentercaerffili.cymru
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: Lowri Jones – 01443 820913 neu lowrijones@mentercaerffili.cymru
