Ar dân dros y Gymraeg ? Cyfle i weithio i hybu’r Gymraeg yn Sir Conwy.
Oriau: Swydd 21 Awr yr Wythnos
Cyflog: Rhwng NJC17-25 (£24,920.00) i (£30,095) a phensiwn
Lleoliad: Lleolir y swydd yn Abergele a’r ardal ond bydd disgwyl i chi weithio o Swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst o leiaf diwrnod yr wythnos gyda hyblygrwydd i weithio o adref.
Cytundeb 2 flynedd i ddechrau.
Gwyliau: 24 diwrnod i ddechrau efo 1 diwrnod ychwanegol y flwyddyn am 2 flynedd. Dydd Gŵyl Dewi a rhwng Nadolig a Chalan yn ychwanegol.
Dyddiad Cau: Dydd Llun,9.00am 12 Ionawr. 2026. Cais drwy lythyr a CV. Am swydd ddisgrifiad a mwy o fanylion ewch i: 👇Swydd Newydd gyda’r Fenter👇 – Menter Iaith Conwy
Neu gysylltwch â meirion@miconwy.cymru neu ffoniwch 01492 642357.
