Ydych chi ar dân dros y Gymraeg ac yn awyddus i’w gweld yn ehangu a ffynnu yng nghymunedau Casnewydd? Ydych chi eisoes yn brofiadol wrth redeg prosiectau a chyflwyno ceisiadau am grantiau? A oes gennych chi weledigaeth glir a strategol ar gyfer sut i feithrin cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ardal hon, a’r sgiliau i’w gwireddu? Os felly, rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Dyma gyfle cyffrous i berson brwdfrydig weithio gyda’n staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig a’r gymuned leol i lywio gweithgareddau Menter Iaith Casnewydd ar ei thaith tuag at Cymraeg 2050 : miliwn o siaradwyr. Rydym yn chwilio am berson trefnus, creadigol, hyblyg a chynhwysol sy’n mwynhau creu cysylltiadau arloesol a gweithio ar y cyd.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Dafydd Duggan, dafydd@mentercasnewydd.cymru
Cyflog: £30,000 pro rata (3 diwrnod yr wythnos)
Dyddiad cau: 25/01/2026
Am fwy o fanylion, swydd ddisgrifiad a ffurflen gais, cerwch i wefan Lleol.cymru.
