Beth am her newydd?

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am unigolyn i arwain, rheoli, ysbrydoli a datblygu eu tîm bach.  Mae angen person brwdfrydig sy’n gallu gweithio’n effeithiol i gynnig arweiniad, cyngor a chefnogaeth ragweithiol i MIC, Pwyllgor Gweithredol MIC a’r Mentrau Iaith Lleol.   

Mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Rheoli, mae’r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am ddatblygiad strategol Mentrau Iaith Cymru gan gynnwys datblygu statws a phroffil y Mentrau Iaith Lleol yng Nghymru, datblygu partneriaethau a dylanwadu ar ran y Mentrau Iaith.

Cyflog: £50,000 + pensiwn

Oriau: Oriau gwaith arferol y swydd yw 37 awr yr wythnos. Er hyn, bydd gofyn i chi weithio oriau pellach sydd yn angenrheidiol i ymgymryd â gofynion y swydd yn effeithiol, gan gynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau (gyda’r gallu i hawlio’r oriau yn ôl). Telir Costau Teithio yn unol â Lwfansau Teithio Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.

Ffurflen gais a Disgrifiad Swydd isod

Dyddiad cau: Hanner dydd, Dydd Gwener 30ain Mehefin 2023