Yng Ngharchar EM Berwyn, Wrecsam, mae grŵp o staff a charcharorion sy’n siaradwyr Cymraeg wedi cyfrannu at brosiect data rhyngwladol arloesol. 

Mewn menter ar y cyd rhwng Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mae’r carchar wedi cymryd rhan yn y prosiect Common Voice a weithredir gan y sefydliad nid am elw Mozilla Foundation 

Mae’r fenter ffynonellau agored byd-eang yn casglu lleisiau unigol mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, i helpu peiriannau ddysgu sut mae pobl yn siarad, a’u galluogi i ymateb i orchmynion llafar. Mae Common Voice yn anelu at wneud technoleg adnabod llais yn fwy cynhwysol, trwy gasglu lleisiau o nifer o ieithoedd gwahanol i’w defnyddio mewn rhaglenni adnabod llais.  Partneriaeth rhwng Mozilla, Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor a Meddal.com yw elfen Gymraeg y prosiect. 

Mae carcharorion a staff o garchar Berwyn wedi cyfrannu eu lleisiau at y prosiect trwy raglen Voice Mozilla, https://voice.mozilla.org/en a chafodd y grŵp fynediad at y rhaglen hon i allu cymryd rhan yn y prosiect.  

Roedd Nigel, un o’r carcharorion yn Berwyn a gyfrannodd i’r prosiect, yn hapus iawn i gyfrannu:

“Fel siaradwr Cymraeg, rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod i wedi gallu cyfrannu at rywbeth a fydd yn hyrwyddo’r iaith ac yn ei diogelu yn y dyfodol, er fy mod yn y carchar. Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y staff wedi rhoi’r cyfle inni gymryd rhan mewn prosiect fel hyn.” 

Meddai Danny Khan, llywodraethwr CEM Berwyn,

“Mae gallu cyfrannu at brosiect byd-eang fel hwn yn wych. Mae gennym gymuned Cymry Cymraeg gadarn yma yn Berwyn ac mae  llawer o weithgareddau iaith Gymraeg yn cael eu cynnal ar y cyd gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam trwy gydol y flwyddyn. Pan awgrymodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam y dylwn ni gymryd rhan, mi wnaethom ni gyflwyno’r syniad i’r carcharorion ac rwy’n falch iawn bod 12 ohonynt wedi gwirfoddoli, ynghyd â sawl aelod o staff. Mae llawer o weithgareddau da yn mynd ymlaen yn y carchar i helpu’r gymuned ehangach ac atal y dynion rhag aildroseddu ac nid yw’r cyhoedd yn gweld llawer o’r gweithgareddau hyn. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft dda o sut all pobl sydd yn y carchar wneud cyfraniad gwerth chweil er gwaethaf eu dedfryd. Mae’r holl beth wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i’r carcharorion a’r staff.” 

Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn ymwybodol bod rhai o’r rhaglenni adnabod llais mwyaf adnabyddus fel Alexa a Siri yn cael trafferthion deall Cymraeg llafar. Gydag amser mae yna berygl y bydd siaradwyr Cymraeg yn dewis siarad Saesneg wrth ddefnyddio dyfeisiau fel hyn gan ei fod yn haws. Mae’r prosiect hwn yn helpu i ddatblygu’r dechnoleg i sicrhau na fydd rhaid siarad Saesneg – a gall chwarae rhan fawr i ddiogelu’r defnydd o’r iaith yn ein bywydau pob dydd yn y dyfodol. Dywedodd y carcharorion yn Berwyn eu bod yn teimlo’n falch iawn eu bod wedi cyfrannu at brosiect gwerth chweil fel hwn. Maent yn rhan o’n cymuned ac rwy’n hapus iawn eu bod wedi gallu cyfrannu er eu bod yn y carchar.” 

Meddai Delyth Prys o Brifysgol Bangor:

Rydym yn falch iawn fod CEM Berwyn wedi gallu cyfrannu at y gwaith hwn. Diolch yn fawr i’r dynion am gyfrannu eu lleisiau, a hynny gydag agwedd mor gadarnhaol. Byddwn yn annog unrhyw siaradwyr Cymraeg yn y gymuned i ystyried cyfrannu eu lleisiau i’r prosiect hefyd.” 

Mae angen rhagor o leisiau Cymraeg ar gyfer y prosiect. Ewch i https://voice.mozilla.org/cy i ganfod mwy.