Diolch i Chris Baglin am ddarparu’r llun: @sioncorncymru

Mae llawer o gyfleoedd ar draws Cymru i blant gael sgwrs Gymraeg gyda Siôn Corn – mewn ffeiriau Nadolig, trwy Zoom yn fyw o Begwn y Gogledd neu hyd yn oed cael brecwast neu swper gyda’r dyn ei hun.  

Dyma lyfryn sy’n cynnwys detholiad o lefydd yng Nghymru mae Siôn Corn yn mynd i ymweld â nhw eleni. Wyt ti’n gwybod am fwy o lefydd? Cysyllta â ni ar post@mentrauiaith.cymru ac fe wnawn ni ychwanegu’r wybodaeth ynddo. 

Cymer olwg y tu fewn i’r llyfryn hwn i gael gweld ble bydd Sion Corn eleni (dolen o dan y llun):