I ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’i lwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed, mae’r Mentrau Iaith yn cyhoeddi cyfres o furluniau ar draws Cymru. Mae’r murlun cyntaf gyda Joe Allen yn Arberth eisoes wedi cael tipyn o sylw gyda rhieni Joe Allen ei hunain yn rhoi sêl bendith i’r llun.  

Tegerin (Teg) Roberts a Lloyd Jenkins yw’r artistiaid graffiti sydd wedi dylunio’r murluniau ac yn eu peintio. Esbonia Lloyd:  

“Daeth ei fam a’i dad i lawr i gael sgwrs ‘da fi pan oeddwn i’n paentio. Doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod nhw’n byw jesd rownd y gornel. Gwnaeth hynna roi tipyn o ‘extra pressure’. Roedden nhw wrth eu boddau, yn blêsd iawn, dyna oedd y peth pwysicaf i mi. Roeddwn i’n gallu ymlacio wedyn.” 

Bellach mae murlun gyda Gareth Bale yn denu sylw pobl yn yr Ais yng Nghaerdydd. 

Meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: 

“Mae’n hyfryd cael y murlun gwych o Gareth Bale yng nghanol y ddinas. Mae’n sicr o godi gwên. Gobeithio daw llawer o bobl i’r Hen Lyfrgell i dynnu lluniau a theimlo’r ysbrydoliaeth mae Gareth Bale a’r tîm yn rhoi i ni i gyd.” 

Caneuon Dafydd Iwan sy’ wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau’r Mentrau Iaith i ddathlu Cwpan y Byd Pêl-droed. “Peintio’r Byd yn Wyrdd” yw’r gân ar gyfer y murluniau er mai peintio’r byd yn goch fydd hi i ddathlu’r tîm a’r Wal Goch.  

Bydd mwy o furluniau yn ymddangos ar draws Cymru yn y dyddiau nesaf. Mae’n werth i drigolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Maldwyn, Ceredigion, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe gadw llygaid allan amdanyn nhw! 

Esbonia Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru: 

“Daeth pwyllgor bach at ei gilydd i drafod syniadau sut i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru a’r gyfres o furluniau oedd yn un amlwg iawn i ni – yn llythrennol. Ein nod ni ydy cyfleu ysbryd y tîm a’r Cymry ar y murluniau. Yn bwysicach na dim rydym yn awyddus i gyrraedd cymunedau Cymru iddyn nhw allu fod yn rhan o’r dathliadau a gallu cadw rhywbeth yn ein cymunedau sy’n parhau. Mae’r murluniau’n fwriadol mewn lleoliadau sydd yn agos at y cymunedau. Rydym yn dathlu tîm Cymru, ein hiaith a’n diwylliant trwy groesawu pawb o bob man i ddathlu gyda ni.” 

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Mae mwy o wybodaeth am y gweithgareddau ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol.