Pecyn Gwybodaeth tendr gwaith Marchnata “Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022”

Mentrau Iaith Cymru                                                                                 Mai 2022 

Cynnwys: 

  1. Hysbyseb (tudalennau 1 a 2) 
  2. Briff y gwaith (tudalennau 2 a 3) 
  3. Gwybodaeth Gyffredinol (Amserlen, cyllideb ac ati- tudalen 4) 
  4. Ffurflen Ymgeisio a system marcio ceisiadau (atodiad 1- tudalennau 5 i 7)

1.Hysbyseb:

Cytundeb Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus llawrydd cyfnod penodol- y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Awst 2022.  

Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022- Cyfle cyffrous i gwmni neu unigolyn profiadol, proffesiynol a chymwys i weithio gyda ni ar Ran 3 cynllun arloesol Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022, sef: Ymgyrch Marchnata- Denu Gwirfoddolwyr.

Bydd y cwmni llwyddiannus yn cyd-weithio gyda staff Mentrau Iaith Cymru (MIC) a staff endidau eraill i wireddu’r cynllun. 

Mae MIC wedi bod yn llwyddiannus gyda chais i Gronfa Strategol Gwirfoddoli Cymru. Mae’r Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn rhaglen ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru.   

Y Gwaith: 

   Creu a gweithredu ymgyrch Marchnata, Hyrwyddo a Chyfathrebu ar gyfer y cynllun Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022

   Ymgyrch fydd yn cynnwys elfennau yn y cyfryngau traddodiadol ac ar y cyfryngau cymdeithasol- rydym yn agored i syniadau gan enillwyr y cytundeb a bydd wedyn angen blaenoriaethu’r gyllideb i’r syniadau sy’n cael eu ffafrio

   Y gynulleidfa darged i’r ymgyrch fydd y cyhoedd- rydym eisiau targedu gwirfoddolwyr i gefnogi’r endidau Cymraeg megis y Mentrau iaith, Yr Urdd, Mudiad Meithrin, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â denu gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu Cymraeg i ba bynnag fudiad y maent yn gwirfoddoli- felly bydd angen defnyddio sawl llwyfan gwahanol i ledaenu’r ymgyrch

         Lansio’r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion Awst 2022 gan gynnwys cyd-drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad lansio

Mudiad cenedlaethol yw MIC sy’n cefnogi gwaith y 22 Menter Iaith leol ledled y wlad www.mentrauiaith.cymru

Y cwmni/ unigolyn llwyddiannus: 

  • Profiad eang o greu ymgyrchoedd Marchnata llwyddiannus
  • Dealltwriaeth o sefyllfa’r Gymraeg, Prosiect 2050 a’r Trydydd Sector yng Nghymru
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth, o weithio gyda sawl mudiad/ cwmni ar y tro a phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr

Am fwy o wybodaeth a phecyn ymgeisio am y tendr cysylltwch ag Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) IwanHywel@gwynedd.llyw.cymru   Dyddiad Cau: 12pm 10.06.2022

2. Briff y Gwaith 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau a dychwelyd tendr i Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) – IwanHywel@gwynedd.llyw.cymru

Beth rydym eisiau? 

Ein bwriad drwy roi’r darn o waith yma allan i dendr yw cael cefnogaeth arbenigol fydd ein cefnogi i sicrhau llwyddiant Rhan 3 cynllun arloesol hwn.

Cefndir: 

Mae MIC yn cefnogi gwaith y 22 Menter Iaith leol. Mae’r Mentrau Iaith yn creu cyfleoedd i bawb ddefnyddio’r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd ac yn ein cymunedau lleol.   

Bwriad “Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022” yw cyrraedd sefyllfa ble mae gwell dealltwriaeth gan endidau o sut i fynd ati i ddenu gwirfoddolwyr sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, a bod mwy o bobl yn gwirfoddoli a gwneud hynny wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae 3 rhan benodol i’r gwaith (gweler isod) a bydd y cwmni/ unigolyn llwyddiannus yn cydweithio gyda staff MIC ar y cynllun i sicrhau llwyddiant Rhan 3- Yr Ymgyrch Marchnata. 

*Mae’r isod yn ddisgrifiad o’r holl waith yn y cynllun, bydd beth yn union sydd angen i enillydd y tendr hwn gwblhau yn cael ei benderfynu mewn trafodaethau a bydd disgwyl hyblygrwydd, ond bydd yn cynnwys yr holl waith yn Rhan 3. Bwriadwn gynnal cyfarfodydd wythnosol yn ystod cyfnod y cynllun i sicrhau cydweithio agos rhwng staff MIC, endidau eraill ac enillydd y tendr.

Rhan 1: (Er Gwybodaeth yn unig, y gwaith yma’n digwydd rŵan)

Gwerthuso’r hyn ddigwyddir yn barod o ran gwirfoddoli a’r Gymraeg mewn 3 neu 4 ardal ddaearyddol, a chynnwys a thrafod gydag endidau cenedlaethol perthnasol

Gweithio gyda’r Cyngor Gwirfoddol Lleol ac endidau sydd am ddenu gwirfoddolwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd i ddysgu am arferion da a gwersi sydd i’w dysgu

Canfod dulliau recriwtio a systemau cyfeirio gwirfoddolwyr a beth sydd angen ei gryfhau  

Adnabod anghenion hyfforddiant a datblygu- cydweithio gyda’r endidau sy’n arbenigwyr yn y meysydd amrywiol fydd yn cael eu hadnabod – hyn yn genedlaethol hefyd, i sicrhau fod pawb yn gwybod ble i dderbyn arweiniad/ hyfforddiant 

2 elfen fydd angen eu cynnwys a dehongli yw-   

•           “Gwirfoddoli Yn y Gymraeg”- gwirfoddoli yn defnyddio’r iaith ond ddim yn benodol gydag endidau sy’n gweithio er budd yr iaith

•           “Gwirfoddoli Dros y Gymraeg”- gwirfoddoli yn defnyddio’r iaith gydag endidau sy’n gweithio yn benodol er budd yr Iaith 

Rhan 2: (Er gwybodaeth yn unig, y gwaith yma’n yn digwydd rŵan)

  • Rhannu’r arferion da o’r ardaloedd ac o drafodaethau gyda phartneriaid cenedlaethol:   
  • Systemau cyfeirio clir, cryfhau perthynas rhwng endidau a chreu gwell gyfleoedd i wirfoddolwyr   
  • Hyrwyddo defnydd gwefan Gwirfoddoli Cymru, sicrhau niferoedd digonol o gyfleoedd ar y portal hwnnw
  • Creu fframwaith cenedlaethol Y Gymraeg a Gwirfoddoli bydd yn waddol i’r prosiect a phe bai angen/ awydd yn gallu cael i’w ddefnyddio gan endidau yn y dyfodol i fwydo mewn i gynllun Investing in Volunteers   

Rhan 3: Am y rhan yma mae’r tendr hwn:

  • Ymgyrch denu Gwirfoddolwyr sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, hynny i gyfleoedd YN y Gymraeg a DROS y Gymraeg
  • Ymgyrch broffesiynol ar draws y cyfryngau traddodiadol a digidol
  • Digwyddiad Lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion

3. Hysbysebu, Penderfyniad, Amserlen, Cyllideb a Gwybodaeth Gyffredinol

Hysbysebu a Phenodi’r cwmni llwyddiannus

  • Bydd y tendr hwn yn cael ei hysbysebu ar wefan Gwerthu i Gymru ac ar gyfrifon cymdeithasol MIC ac yn cael ei yrru allan at gwmnïau y gwyddwn amdanynt yn barod fydd o bosib efo diddordeb. Bydd y Mentrau Iaith lleol hefyd, ble’n bosib, yn lledaenu’r neges am y cyfle.
  • Bydd angen gwneud cais yn uniongyrchol i MIC drwy ddychwelyd y ffurflen yn atodiad 1 i Iwan Hywel- IwanHywel@gwynedd.llyw.cymru
  • Bydd Pwyllgor Gweithredol MIC yn penderfynu ar bwy fydd yn gwneud y gwaith, drwy system sgorio benodol y gwelir yn atodiad 1.

Amserlen:

  • Cychwyn Hysbysebu: 27/05/22
  • Dyddiad cau ceisiadau: 10/06/22
  • Rhoi gwybod i’r cwmni Llwyddiannus: 15/6/22
  • Y Gwaith i gychwyn: 20/6/22
  • Y Gwaith i orffen: diwedd Awst 2022

Cyllideb: Mae gennym hyd at £12,000 (yn cynnwys TAW os yn berthnasol) i wneud y gwaith hwn, bydd costau cynhyrchu unrhyw hysbysebion neu dalu am hysbysebion angen dod o’r gyllideb hon.

  • Gwybodaeth Ychwanegol:

Mentrau Iaith- www.mentrauiaith.cymru

  • Cymraeg 2050- <https://llyw.cymru/cymraeg-2050-ein-cynllun-ar-gyfer-2021-i-2026-html>

Atodiad 1: Ffurflen Gais a gwybodaeth sgorio ceisiadau:

Manylion Cyffredinol:

Enw Cwmni:

                                                                                                                                          

Cyfeiriad:

                                                                                                                                                 

Enw a theitl swydd y sawl sy’n llenwi’r ffurflen:

                                                                                                                                          

E-bost a Rhif cyswllt:

                                                                                                                                         

Oes yswiriant “indemnity” gan eich cwmni fydd yn diogelu MIC rhag unrhyw gamgymeriadau posib all ddigwydd petaech yn llwyddiannus yn derbyn y cytundeb?*

Oes/ Nagoes (Rhowch gylch o amgylch yr ateb perthnasol)

*gofynnwn i chi atodi copi o’r dystysgrif yswiriant gyda’r cais hwn

Ateb Gofynion Y Gwaith:

Disgrifiwch y profiad sydd gan eich cwmni sy’n cyd-fynd gyda’r hyn yr ofynnwn amdano fel profiad yn yr hysbyseb. Uchafswm 600 gair, bydd eich ateb i’r cwestiwn hwn yn cael ei farcio gan ein Pwyllgor Gweithredol, 40% o’r penderfyniad ar y cwestiwn hwn. Croeso i chi atodi hyd at 3 enghraifft o waith rydych wedi ei gyflawni sy’n berthnasol i’r gwaith. Gall y rhain fod yn enghreifftiau o ymgyrchoedd marchnata, gwaith cysylltiadau cyhoeddus ayyb, ni fyddwn yn cyfri’r enghreifftiau tuag at yr uchafswm geiriau.  
Disgrifiwch sut byddwch yn mynd ati i wneud y gwaith sydd wedi ei ddisgrifio gennym yn Rhan 3, disgrifiwch be fyddwch yn ei gynnig o dan y camau penodol, be allwn ddisgwyl gennych yn ystod y gwaith a chofiwch gynnwys unrhyw syniadau gwreiddiol a chyffrous sydd gennych. Uchafswm 600 gair, bydd eich ateb i’r cwestiwn yn cael ei farcio gan ein Pwyllgor Gweithredol, 40% o’r penderfyniad ar y cwestiwn hwn.
  • Costau eich cynnig a chyllideb

Gofynnwn i chi nodi eich amcan gostau i gwblhau Rhan 3 nodi’r yn y briff.

Bydd eich ateb i’r cwestiwn yn cael ei farcio gan ein Pwyllgor Gweithredol, 20% o’r penderfyniad ar y cwestiwn hwn

   Costau
Rhowch amcan faint fydda cwblhau Rhan 3 yn y briff uchod yn costio, a sawl diwrnod gwaith yw hyn    £
Cyfanswm (Yn cynnwys TAW os yn berthnasol)£

Dychwelwch at IwanHywel@gwynedd.llyw.cymru ddim hwyrach na 12pm dydd Gwener 10/06/2021