Hwrê! Roedd Parti Ponty yn ôl unwaith eto eleni ar Fai 12fed a 13eg yn bownsio â digwyddiadau a cherddoriaeth yn y Rhondda. Yr un ŵyl Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf ac mae croeso cynnes i bawb bob blwyddyn – boed yn siaradwyr Cymraeg neu ddim.

Roedd parti yn y pwll, y Lido eto gyda Tara Bandito, a llwyth o weithgareddau a gigs ym Mharc Ynys Angharad a Chlwb y Bont. Dyma flas o’r 2 ddiwrnod.