Er mwyn nodi Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror, 2018, mae dau berson ifanc lleol sy’n frwd gerddoriaeth wedi sôn am y gefnogaeth a roddwyd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gan Fenter Bro Ogwr.

Dechreuodd Rhys Upton, DJ o Flaengarw, ei fusnes ei hun, ‘Adloniant Rhys Upton Entertainment’ yn dilyn cefnogaeth gan Fenter Bro Ogwr. Drwy fynd i glybiau’r Fenter, datblygodd sgiliau i ddefnyddio offer newydd, derbyniodd wybodaeth ar ddechrau busnes a gwella ei wybodaeth am gerddoriaeth Gymraeg. Dywed;

 “Dechreuais wirfoddoli gyda Menter Bro Ogwr, yn cynorthwyo yn eu digwyddiadau. Yna sylweddolais fod yna ofyn mawr i DJs dwyieithog sy’n chwarae caneuon Cymraeg. Mae’r Fenter Iaith yn gwneud llawer o waith caled i gefnogi’r sin Gymraeg yn yr ardal, yn trefnu gigs o gwmpas Pen-y-bont fel ‘Cerdd yn y Cwrt’. Rwy’n mwynhau Djio cerddoriaeth Gymraeg mewn digwyddiadau lleol, a ‘dw i’n teithio ar draws De Cymru gyda fy ngwaith. Ond rwy’n dal yn mwynhau helpu gyda’r Fenter Iaith pan alla i. “

Artist arall sy’n gwerthfawrogi help gan Fenter Bro Ogwr yw Gracie Richards, canwr-gyfansoddwr ifanc o Faesteg. Dywed;

 “Mae’r Fenter Iaith wedi agor nifer o ddrysau i mi fel perfformiwr gan helpu i mi gael gigs mewn llefydd fel yr Eisteddfod a Gŵyl Ogi Ogi Ogwr.

Rydw i wedi bod yn chwarae’r gitâr ac yn ysgrifennu fy nghaneuon am 7 mlynedd ac wedi bod yn gigio am 2 flynedd bellach gan gynnwys y rhai a drefnir gan y Fenter. Maent hefyd yn wych yn codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal, gan annog pobl ifanc i wirfoddoli mewn digwyddiadau. “

 Mae Menter Bro Ogwr hefyd wedi comisiynu Gracie i ysgrifennu cân yn arbennig ar gyfer Gŵyl Ogi Ogi Ogwr eleni, dathliad o’r Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg mewn pobl ifanc yn rhan annatod o gryfhau’r iaith, yn ôl Prif Swyddog Menter Bro Ogwr, Amanda Evans. Dywed;

 “Mae cymaint o gerddoriaeth Gymraeg gwych mas ‘na, yr un amrediad a cherddoriaeth unrhyw iaith. Mae angen i ni ddangos hyn i’n pobl ifanc sydd weithiau’n gweld yr iaith fel rhywbeth i’r ystafell ddosbarth yn hytrach nag fel iaith gymdeithasol i’w mwynhau. Rydym yn falch iawn o fod wedi helpu Rhys a Gracie i ddatblygu eu celf ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd o’r Gymraeg i gysylltu â ni. “

Gracie Richards yn perfformio

Gracie Richards yn perfformio