Wnes di wylio fideos Gŵyl Fach y Fro? Cer draw i wefan AM  i wylio’r holl gynnwys ETO!

Cyhoeddi Artistiaid Tafwyl

Tafwyl yw gŵyl Gymraeg Caerdydd, dathliad o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg yn ein Prifddinas wedi ei drefnu gan Fenter Caerdydd.

Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos yn yr ŵyl mae Geraint Jarman, Mared,Cowbois Rhos Botwnnog, Ani Glass, Gwilym,a Breichiau Hir. Bydd 15 band yn perfformio ar draws 2 lwyfan, wedi eu curadu gan Clwb Ifor Bach. Bydd perfformiad hefyd gan fand o Lydaw, EMEZI, trwy bartneriaeth rhwng Tafwyl ȃ’r ŵyl Lydaweg Gouel Broadel ar Brezhoneg (GBB).

Bydd y digwyddiad yn ffrydio’n fyw ar AM o gartref yr ŵyl, Castell Caerdydd, dan ofal y cyflwynwyr Huw Stephens, Seren Jones a Tara Bethan.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw bydd cyfuniad cyffrous o drafodaethau, sgyrsiau a gweithgareddau i blant mewn rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau amrywiol.

Wrth i Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, y bwriad yw adeiladu ar y profiadau newydd a ddaeth yn sgìl yr ŵyl rithiol llynedd, parhau i gynnal ei hysbryd croesawgar a chynhwysol, a throi’r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig.

Bydd rhai o ddigwyddiadau ffrinj yr ŵyl yn cychwyn ar 8 Mai, gydag un o’r prif ddigwyddiadau – gig elusennol Mind Cymru gydag Eden- yn digwydd ar noswyl Tafwyl (14 Mai). Ar ddydd Sadwrn 15 Mai bydd holl ddigwyddiadau’r ŵyl yn cael eu ffrydio’n fyw rhwng 10yb a9yh trwy gyfrwng platfform digidol AM, yna bydd cyfle i fwynhau’r uchafbwyntiau ar S4C am 8yh, nos Sul 13 Mehefin.

I weld rhaglen lawn yr ŵyl ac am fwy o wybodaeth ewch i www.tafwyl.cymru a chyfryngau cymdeithasol Tafwyl @Tafwyl / #tafwyl21