Bydd rhaglen o weithgareddau iaith Gymraeg i blant, pobl ifanc, a theuluoedd ar gael yn rhad ac am ddim ar draws Abertawe eto’r haf yma diolch i Menter Iaith Abertawe, ei phartneriaid, a chefnogaeth gan gronfa COAST Cyngor Sir Abertawe.

Mae’r gwyliau yn cychwyn gyda thridiau o gynlluniau chwarae iaith Gymraeg ar gyfer plant 8-11 oed. Mae croeso hefyd i blant iau fynychu gydag oedolyn. Nod y cynlluniau yw caniatáu plant i ddysgu trwy chwarae yn y Gymraeg. Bydd y sesiynau yn cynnig chwaraeon, celf a chrefft, sgiliau syrcas, a llawer mwy! Bydd y cynlluniau yn rhedeg rhwng 10:00-12:00 o ddydd Llun y 22ain i ddydd Mercher y 24ain o Orffennaf ar safle Ysgol Gyfun Gŵyr, ac mae llefydd cyfyngedig ar gael i’w harchebu nawr.

Bydd gŵyl haf PlanTawe yn digwydd ar ddydd Gwener y 26ain o Orffennaf. Mae PlanTawe yn ddigwyddiad am ddim i blant o bob oedran a’u teuluoeddar y cyd rhwng Menter Iaith Abertawe, Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a Cymraeg i Blant. Bydd y digwyddiad haf yn cynnwys gemau, sesiynau canu, crefftau, a’r cyfle i gwrdd â Magi Ann a chymeriadau eraill i’r plant lleiaf, yn ogystal â gweithgareddau fel gweithdai Ukelele i’r plant hŷn. Mae’r digwyddiad yn rhedeg rhwng 13:00-16:00 ym Mharc Waverley, Clydach. Nid oes angen archebu o flaen llaw.

Yn y nos wedi’r digwyddiad yma, bydd gig am ddim gyda Mei Gwynedd a’r Band yn ogystal â nifer o artistiaid o’r ardal leol. Mae’r gig yma yn agored i bob oedran, a bydd bar ar gael ar gyfer yr oedolion sy’n mynychu. Mae’r digwyddiad yn rhedeg rhwng 19:00-22:00 ac mae tocynnau am ddim ar gael i’w harchebu trwy TicketSource. Mae’r digwyddiad yma wedi ei gefnogi gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Mynydd Y Gwair.

Bydd Chwarae Annibendod yn ymweld â canolfan Gymraeg Tŷ Tawe yng nghanol y ddinas ar ddydd Iau’r 1st o Awst ar gyfer sesiwn chwarae blêr. Mae’r sesiwn yma yn addas ar gyfer plant 0-5 mlwydd oed, a bydd yn cynnwys nifer o gyfleodd i’r plant gael eu dwylo yn frwnt! Bydd y sesiwn yn cychwyn am 11:00 ac yn para tua 2 awr. Mae llefydd ar gyfer y sesiwn ar gael i’w harchebu nawr.

Bydd dathliadau Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Mercher y 7fed o Awst. Mae Menter Iaith Abertawe wedi rhaglennu’r ddarpariaeth iaith Gymraeg fel rhan o’r diwrnod, a bydd hyn yn cynnwys amser stori gyda Magi Ann yn ogystal â chyfleoedd chwarae amrywiol. Mae’r digwyddiad yn agored i blant o bob oedran, ac yn dechrau gydag Awr Dawel rhwng 10:00-11:00 cyn parhau hyd at 14:00. Nid oes angen archebu o flaen llaw.

Bydd y cerddor hip-hop byd enwog, Mr Phormula, yn ymweld â Tŷ Tawe ar ddydd Mercher y 14eg o Awst am weithdy arbennig. Bydd y sesiwn 4 awr yma yn dechrau am 11:00, a bydd y rhai sy’n mynychu yn derbyn y cyfle i ddatblygu eu sgiliau beatbocsio, rap, a chynhyrchu cerddoriaeth. Mae’r sesiwn yma yn addas i oedrannau 11-18, a gellir archebu’r llefydd cyfyngedig nawr.

Ar ddydd Iau’r 22ain o Awst, bydd cyfleoedd i greu gwaith celf arbennig mewn gweithdai dwdlo cam-wrth-gam gyda Rhys Padarn o Orielodl. Mae dau sesiwn ar gael – un am 10:00 ar gyfer blynyddoedd 3-6, a’r ail am 11:30 ar gyfer blynyddoedd 7-9. Mae’r ddau sesiwn ar gael i’w harchebu nawr.

Bydd Siani Sionc yn dychwelyd i Tŷ Tawe am sesiwn hwyl arall o ddawnsio a chanu i oedrannau 8 ac yn iau. Bydd y sioe yn cychwyn am 11:30, ac mae’r tocynnau ar gael i’w harchebu am ddim trwy TicketSource.

Mae mwy o weithgareddau a digwyddiadau dal i’w cyhoeddi, a gellir tanysgrifio i gylchlythyr Menter Iaith Abertawe trwy menterabertawe.org er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Ymholiadau: swyddfa@menterabertawe.org