Daeth swyddogion gweithgar y Mentrau Iaith at ei gilydd mewn dathliad ar Ionawr 26ain eleni – noson er mwyn dathlu gwaith y Mentrau ym mhob cwr o Gymru. Bu i griw Mentrau Iaith Cymru drefnu’r noson gyda chydweithrediad Radio Cymru 2 gyda dau o’u cyflwynwyr, Daniel Glyn a Lisa Angharad yn llywio’r noson.
Roedd y digwyddiad wedi’i lleoli o fewn Y Deml Heddwch, Caerdydd gyda phileri marmor hardd y brif stafell yn ffrâm fendigedig i arddangosfa o ffilmiau byrion yn dangos gwaith y Mentrau Iaith wnaeth gyrraedd y brig mewn 5 cystadleuaeth. Dyma’r 5 categori a’r Mentrau gyrhaeddodd y brig:
SIARADWYR NEWYDD – gwaith yn creu cyfleoedd i siaradwyr newydd y Gymraeg ymarfer eu hiaith. Clicia ar enw’r Fenter i gael gweld rhagflas o’u gwaith yn y maes hwn.
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

CYMUNED – digwyddiadau / prosiectau yn dod â’r gymuned ynghyd. Clicia ar enw’r Fenter i gael gweld rhagflas o’u gwaith yn y maes hwn.
Menter Caerdydd – Tafwyl
Menter Iaith Sir Benfro – Gŵyl Fel ‘Na Mai
Menter Iaith Môn – Ein Hanes Ni

DYLAWNWADU – dylanwadu ar unigolion neu fudiadau i ddefnyddio’r Gymraeg. Clicia ar enw’r Fenter i gael gweld rhagflas o’u gwaith yn y maes hwn.
Menter Gorllewin Sir Gâr – Gwefan Profi
Menter Iaith Conwy – Gweithgareddau awyr agored
Menter Iaith Merthyr – Consortiwm Theatr Gymraeg

PLANT A PHOBOL IFANC – prosiectau yn apelio ac ar gyfer plant a phobol ifanc. Clicia ar enw’r Fenter i gael gweld rhagflas o’u gwaith yn y maes hwn.
Menter Iaith Bro Ogwr – Digwyddiadau Pop-up
Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli – Cymru i Qatar
Menter Iaith Sir Ddinbych – Bocs Trysor

GRYMUSO – caniatáu i unigolion / grwpiau o bobol allu arwain ar gynnal digwyddiadau Cymraeg. Clicia ar enw’r Fenter i gael gweld rhagflas o’u gwaith yn y maes hwn.
Menter Dinefwr – Canolfan Hengwrt
Menter Iaith Abertawe – Cymreigio’r Elyrch
Menter Iaith Maldwyn – Gŵyl Maldwyn

Rhaid diolch i’r 15 beirniad wnaeth feirniadu’r 5 categori – a gwneud hynny o’u gwirfodd; hefyd mae angen diolch i noddwyr y noson sef cwmni cyfreithiol Darwin Gray ac i noddwyr y categorïau: Rhieni Dros Addysg Gymraeg; Hansh; Llety Arall; Cwmni IAITH & Y Ganolfan Dysgu Cymraeg.
Mae modd gweld y seremoni yn ei hôl yma.