Mae 2021 yn flwyddyn bwysig iawn i Fenter Cwm Gwendraeth Elli. Eleni, mae’r Fenter yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu yn 1991. Yn amlwg mae ‘na dipyn o heriau wedi bod i allu dathlu’r Penblwydd pwysig hwn, ond llwyddwyd i gael llwyth o ddigwyddiadau amrywiol er mwyn gallu dathlu gyda’r gymuned mae’r Fenter wedi bod yn ei gwasanaethu dros 30 mlynedd!
Cer i ymweld gyda thudalen Facebook y Fenter i weld mwy o’r hyn ddigwyddodd yn ystod eu dathliadau yma.



