Mae Menter Iaith Conwy, mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Abergele, yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cais am gyllid wedi bod yn llwyddiannus. Yn arwyddocaol, dyma’r tro cyntaf i gyn gymaint o gyllid sylweddol ac hir dymor arian Amod 106 gael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r system gynllunio yng Nghymru—cam pwysig ar gyfer sicrhau dyfodol y Gymraeg yn y dref ac ar draws y wlad.
Mae gan Menter Iaith Conwy rwydwaith o bwyllgorau ardal ar draws y sir. Maent wedi’u sefydlu gan Swyddogion Maes y Fenter er mwyn gallu gweithio’n agosach efo cymunedau, eu grymuso ac ymateb i’w anghenion. Mae pwyllgor o wirfoddolwyr lleol yn Abergele sydd wedi bod yn cydweithio efo MIConwy i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.
Sefyllfa’r Iaith Gymraeg yn Abergele
Mae sefyllfa’r Gymraeg yn Abergele yn adlewyrchu’r heriau ehangach sy’n wynebu’r iaith ar draws Cymru. Gyda chynnydd sylweddol yn nifer y trigolion dros y degawdau diwethaf, mae’r ganran sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng yn raddol. Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi aros yn fwy neu lai yr un fath ers 1991, mae twf poblogaeth y dref wedi golygu bod cyfran y siaradwyr wedi lleihau. Mae hyn yn creu heriau i gynnal yr iaith fel rhan fyw o fywyd bob dydd.
Mae ymchwil yn dangos bod angen tua 70% o’r boblogaeth i siarad iaith er mwyn iddi gynnal ei hun yn naturiol. Yn Abergele, mae’r ffigur hwn oddeutu 20%, sy’n golygu bod yr iaith mewn sefyllfa fregus. Pan fydd llai o bobl yn defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned, mae llai o gyfleoedd i’w siarad yn naturiol—sy’n effeithio ar hyder siaradwyr ac yn lleihau trosglwyddiad yr iaith i genedlaethau newydd.

Pam Mae Angen Gweithgareddau Cymraeg?
Pan fydd gweithgareddau cyson yn darparu cyfleoedd i siaradwyr ac i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau cymdeithasol, mae’n helpu i gadw’r Gymraeg yn berthnasol i fywyd bob dydd. Digwyddiadau megis clwb drama, sesiynau i ddysgwyr, gweithgareddau awyr agored ac nosweithiau cymdeithasol nid yn unig yn cadw’r Gymraeg yn fyw ond hefyd yn meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach.
Mae’r cyllid newydd yn sicrhau bod modd ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned, gan greu rhagor o weithgareddau, digwyddiadau a mentrau i gefnogi siaradwyr a dysgwyr yn yr ardal. Yn benodol, bydd yn caniatáu recriwtio Swyddog Cymraeg ar gyfer Ardal Abergele a Phensarn, gan alluogi gwaith mwy dwys i gryfhau presenoldeb y Gymraeg yn y dref.
Dywedodd Meirion Davies, Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy:
“Mae hyn yn garreg filltir hanfodol ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg yn Abergele. Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Abergele a’r cyllid newydd trwy Amod 106, gallwn ddatblygu rhaglenni a mentrau fydd yn cryfhau’r Gymraeg fel iaith fyw yn ein cymuned.”
Ychwanegodd o Gyngor Tref Abergele.
“Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o’r fenter hanesyddol hon. Dyma’r tro cyntaf i gyllid sylweddol o’r system gynllunio gael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r Gymraeg, ac rydym yn edrych ymlaen at weld manteision y cynllun newydd hwn i bobl Abergele.”
Dywedodd Delyth Phillips o Bwyllgor Menter Iaith Abergele.
“Mae’r fenter hon yn rhoi hwb mawr i’n hymdrechion i gryfhau’r Gymraeg yn yr ardal. Bydd y cyllid yn ein galluogi i ehangu gweithgareddau cymunedol, creu mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg, ac adeiladu rhwydwaith cryfach i gefnogi’r iaith yn Abergele.”
Mae’r cam hwn yn cyd-fynd â nodau strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru—sef sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, gan ehangu ei defnydd o fewn cymunedau. Bydd Menter Iaith Conwy yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Tref a phartneriaid lleol i ddefnyddio’r cyllid mewn ffordd a fydd o fudd i drigolion Abergele ac i’r Gymraeg.
