Cadeirydd newydd i Fentrau Iaith Cymru

Yn dilyn Digwyddiad Cenedlaethol, pan ddaeth dros 70 o staff y Mentrau iaith at ei gilydd i rannu arfer dda ac i gyd-drafod, mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn falch iawn o gyhoeddi bod Ffion Gruffudd wedi cael ei phenodi fel Cadeirydd newydd y sefydliad, gan ddechrau yn ei rôl ar unwaith. Bydd Ffion yn cynnig arweiniad i Fentrau Iaith Cymru wrth iddynt gefnogi’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith i gyflawni eu dyhead o weld y Gymraeg yn ffynnu ym mhob cwr o Gymru. 

Yn wreiddiol o Gwrtnewydd yng Ngheredigion, mae Ffion wedi ymrwymo’n ddwfn i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae ganddi brofiad helaeth dros 20 mlynedd ym maes cynllunio ieithyddol ac arweinyddiaeth strategol, gan wasanaethu fel Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog i Gyngor Caerdydd. Yn y rôl hon, mae Ffion wedi bod yn arweinydd trawsnewidiol ar agenda’r Gymraeg yn y brifddinas gan arwain ar ddatblygu a gweithredu strategaeth hybu a hyrwyddo’r Cyngor – Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog.

Yn ogystal â’i gwaith yng Nghaerdydd, mae Ffion yn cadeirio Bwrdd a Phartneriaeth Cymraeg i Bawb y de-ddwyrain, sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws dinas-ranbarth Caerdydd. Mae hefyd yn aelod o ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sy’n ystyried dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o ddwysedd is a chanolig o Gymru.

Dywedodd Ffion: “Mae’n fraint aruthrol cael fy mhenodi yn Gadeirydd Mentrau Iaith Cymru ar gyfnod mor gyffrous yn hanes Cymru wrth i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg ddod i rym, ac fe wna’i fy ngorau glas i gynorthwyo Mentrau Iaith Cymru i gyrraedd ein nod o gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob un o’n cymunedau ni.”  

Yn ôl Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Mentrau Iaith Cymru, “Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu Ffion i’r rôl ac yn argyhoeddedig y bydd MIC a’r Mentrau oll yn elwa o’i phrofiad a’i brwdfrydedd.  Fe fydd hi’n llysgennad gwych i ni.  Mae Ffion yn cymryd yr awenau oddi wrth Dewi Snelson, Prif Weithredwr Menter Gorllewin Sir Gâr, ac fe fydd Dewi’n cynorthwyo Ffion fel Is-Gadeirydd yn ystod y cyfnod nesaf.”

Mae Ffion yn argyhoeddedig bod rôl y Mentrau Iaith yn bwysicach nag erioed o ran cynyddu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau. Dywedodd Ffion “Mae’r gwaith mae’r Mentrau Iaith yn llwyddo i’w gyflawni yn aruthrol, ac yn arf i’r Llywodraeth i weithredu ei Strategaeth Cymraeg 2050 gan fod pob Menter yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy sy’n cyfrannu’n helaeth i wireddu’r nod o ddyblu’r nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol.”

Nodiadau:

Cyfarwyddwr Bwrdd MIC yw:

Llinos Evans, sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn sir Gâr, ac yn gweithio yn y maes polisi a chydraddoldeb yn y sir honno,

Katharine Young, sy’n dod o Loegr yn wreiddiol, wedi ei magu yng Ngwynedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn darlithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd,

Hawys Roberts, sy’n byw yng Ngheredigion ac yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg,

Ffion Gruffudd, sy’n dod o Gwrtnewydd, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd,

Sara Pennant Jones, sydd wedi ei geni a’u magu yng Ngwynedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Estyn.

Dewi Snelson – Menter Gorllewin Sir Gâr,

Owain Gruffydd – Menter Dinefwr,

Meirion Davies – Menter Iaith Conwy,

Maiwenn Berry –  Menter Iaith Fflint a Wrecsam,

Lowri Jones – Menter Iaith Sir Caerffili,

Osian Rowlands – Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Am fwy o wybodaeth am waith Mentrau Iaith Cymru, ewch i mentrauiaith.cymru.

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth, neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch a Myfanwy Jones ar 07817439460 / Myfanwy@mentrauiaith.cymru