Oherwydd argyfwng Coronavirus, mae nifer o Weithwyr Iechyd ac Argyfwng yn chwilio am gartref dros dro. Mae Menter Môn yn cynnig help llaw gyda’r broses hon drwy sefydlu Ciando – cynllun i adnabod llety am ddim i’r gweithwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Maent yn galw ar berchnogion tai ym Môn a Gwynedd i gofrestru eu lletai gwag, er mwyn eu cynnig am ddim i weithwyr rheng flaen.

Mae staff y Fenter Iaith yn helpu i gydlynu’r ceisiadau hyn gan sicrhau bod y negeseuon yn cyrraedd y gweithwyr rheng flaen fod cefnogaeth ar gael iddynt pe byddant ei angen. Er mwyn gwireddu hyn, maent yn cydweithio’n frwd â chwmni bythynod gwyliau, Dioni.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun ar BBC Cymru Fyw

cymru fyw

Mae modd cofrestru gyda Ciando ar wefan Menter Môn

Ystyr ‘ciando’? Gair tafodiaethol am roi pen ar glustog neu am fynd i’r gwely.