Cynhadledd Llwyddiannus yn Llandrindod

 

Cafwyd Cynhadledd Prif Swyddogion a Chadeiryddion llwyddiannus iawn yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ym mis Tachwedd. Bu trafod dwys a nifer o sesiynau buddiol dros y ddau ddiwrnod. Agorwyd y Gynhadledd eleni gydag anerchiad gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru wnaeth canmol gwaith y Mentrau fel “gwaith hanfodol ac allweddol” fel partneriaid Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o gryfhau’r Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni yn gymunedol.

 

Nod y Gynhadledd

Nod y Gynhadledd oedd rhannu gwybodaeth, profiadau ac arbenigedd yn y maes cynllunio
ieithyddol ac i annog cydweithio strategol mewn perthynas â’r maes hyrwyddo’r Gymraeg.
Fe baratowyd rhaglen eang ac amrywiol, gyda chymysgedd o sesiynau rhannu gwybodaeth,
rhyngweithiol a thrafodaethau er mwyn cwrdd â’r nod.

Cafwyd adborth hynod galonogol gyda’r rhan helaeth o gyfranogwyr yn dweud bod y Gynhadledd eleni yn ddiddorol a phrysur â chynnwys perthnasol iddynt. Dywedodd 92% o’r mynychwyr eu bod wedi derbyn gwybodaeth newydd ac 84% bod y Gynhadledd yn debygol o gael effaith positif ar eu gwaith yn y dyfodol.

“Trefniadau gwych, llawn gwybodaeth ddefnyddiol.”

“Trefniadaeth wych – popeth wedi ei baratoi yn berffaith.”