Cyn i bandemig Coronafeirws effeithio ein bywydau, roedd trychinebau eraill wedi effeithio ardaloedd dros Gymru, sef Ciara a Dennis. Achosodd y ddwy storm lifogydd difrifol sydd wedi effeithio cymoedd y De Ddwyrain yn benodol ag ymatebodd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn gyflym.

Un adeilad cafodd ei ddifrodi yn ddifrifol oedd Clwb y Bont, ym Mhont-y-pridd, sydd wedi ennill ei lle fel lleoliad poblogaidd i gerddoriaeth fyw Cymraeg yng Nghwm Rhondda. Cawsom yr hanes gan Einir Sion, Prif Swyddog y fenter:

Trefnu digwyddiad codi arian

“Yn dilyn llifogydd Clwb y Bont ar benwythnos y 15ed a’r 16eg o Chwefror, cynigiodd Emyr Afan greu digwyddiad i godi arian i’r Clwb. Ar yr un pryd, ymrwymodd y Fenter i gymryd camau gweithredu er mwyn cynorthwyo’r Clwb mewn cyfnod o argyfwng. Roedd y camau yma’n cynnwys, sicrhau bod Prosiect 5 Mil yn parhau i ddod i’r Clwb, ein bod yn eu cynorthwyo i chwilio cyllid allanol a’n bod yn cydweithio ag Emyr Afan i greu digwyddiad codi arian sylweddol.


Wedi hyn, aed ati i drefnu gydag Emyr yn arwain ac yn cysylltu ag artistiaid a thechnegwyr dirifedi a ninnau’n cynghori, cynorthwyo a sicrhau cydweithio rhwng partneriaid lleol, gan gynnwys y Ffatri Bop, Valleys Kids, Hyrwyddwyr Ifanc a mudiadau lleol. Roedd marchnata a hyrwyddo yn waith cyson i ni gyd wrth geisio creu digwyddiad mewn amser mor fyr. Bu tîm Avanti yn arbennig a daeth mwy a mwy o bobl i’r adwy i gynnig eu hamser a’u harbenigedd am ddim. Crëwyd gwefan a deunydd marchnata, a daeth cwmni adeiladu setiau, cwmni diogelwch, cwmni creu nwyddau i’r fei i roi eu holl amser am ddim i ychwanegu at y llu o dechnegwyr a perfformwyr. Daeth yn amlwg yn fuan yn y broses bod enwau mawr o Gymru eisiau cyfrannu at godi arian i bobl a busnesau y tu hwnt i Glwb y Bont trwy’r ymgyrchoedd codi arian lleol, a penderfynwyd y byddai’n dda hefyd rhoi llwyfan i fandiau lleol ac i gefnogi y Green Rooms a Bragdy Twt Lol oedd wedi dioddef yn y llifogydd. Dyna oedd geni Valley Aid, penwythnos cyfan o godi arian at unigolion a busnesau yn y Cymoedd oedd wedi dioddef yn y llifogydd.”

Codi £41,000 i helpu’r cwm

“Emyr Afan gafodd y syniad, ddefnyddiodd ei holl gysylltiadau ac arbenigedd ac a sicrhaodd bod y penwythnos yma’n llwyddiant ysgubol. Mae’n agos i £41,000 wedi ei godi hyd yma. £11,739 o hynny at Glwb y Bont. Mae’r arian yma, ynghyd ag arian ymgyrch Just Giving y Clwb yn golygu eu bod o fewn cyrraedd i fedru ail agor. Mae mwy o waith i’w wneud a mwy o arian i’w godi a byddwn ni’n parhau i gefnogi hynny. Menter Iaith RhCT yw’r elusen sy’n prosesu’r holl arian ar gyfer y penwythnos cyfan. Mae wedi bod yn fraint gweithio gydag Emyr a’i dîm a gweld cymaint o waith o’r safon uchaf posib sydd wedi ei greu, i gyd am ddim.”

Chroma - un o'r bandiau poblogaidd o'r cymoedd

Chroma – un o’r bandiau poblogaidd o’r cymoedd

Cynyddu proffil y Gymraeg

“Mae’r Gymraeg wedi cael proffil uchel iawn gydol y penwythnos gyda nos Wener yn noson gwbl Gymraeg, y dydd Sul yn ddwyieithog, yr holl farchnata a’r wefan yn gwbl ddwyieithog. Mae’n gwirfoddolwyr wedi cynorthwyo gydol y digwyddiadau. Yn sgil yr anffawd o’r llifogydd, mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cymaint yn dod ynghyd at achos cyffredin, i helpu eraill, ac ry’n ni’n falch cyhoeddi y byddwn ni’n adeiladu ar y perthnasau agos sydd wedi eu creu gyda Valleys Kids, Y Ffatri Bop ag Avanti. Dwi’n sicr bydd yr ysbryd o gyflawni gwaith arbennig, i godi proffil ac arian at achosion da a hyrwyddo’r Gymraeg yn parhau.”

Datblygu Timau Ieuenctid Menter1584701631_TIM

Ers rhai blynyddoedd bellach mae prosiect ieuenctid y Fenter Iaith, sef TIM (Timau Ieuenctid Menter), wedi adfywio gweithgarwch Cymraeg yng Nghlwb y Bont gan ddatblygu eu sgiliau trefnu ar gyfer y clwb gyda help gan Pyst.

Dyma fideo yn esbonio’r cydweithio ddigwyddodd ar gyfer trefnu Parti Ponty yn 2019.

Gallwch chi wylio fideos rhai aelodau TIM sydd yn hunan-ynysu ar sianel AM yma.