Mae grwpiau ymarfer i ddysgwyr yn ymddangos ar hyd a lled y wlad, gyda’r Mentrau Iaith yn ganolog i fwyafrif y clybiau clonc yma.

Creu cyfleoedd anffurfiol a chysurus i bobl o bob oed ddefnyddio’r Gymraeg heb feirniadaeth, a chreu sefyllfaoedd i gynyddu hyder i ddefnyddio’r iaith yw un o brif bwrpasau’r grwpiau hyn.

Yng ngeiriau un dysgwr sy’n mynychu;

“bob tro dw i’n defnyddio fy Nghymraeg mewn ffordd sydd ddim mor ffurfiol â’r dosbarth dw i’n cael mwy o hyder i siarad Cymraeg o flaen pobol arall yn y gymuned ac yn fy ngwaith”

Wedi symud o’r ardal yn dilyn ymddeoliad cynnar o ddysgu ym Manceinion, dechreuodd yr unigolyn yma ddilyn ap Duolingo cyn cychwyn ar gwrs Mynediad ac yn ystod ei gyfnod ar gwrs Mynediad 2 dechreuodd fynychu Clonc a Choffi Menter Iaith Sir Benfro bob pythefnos.

O’r Gorllewin i’r Dwyrain – mae Menter Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy wedi cynnig profiad tebyg. Dywed Thomas Hughes, Prif Swyddog y fenter;

“Mae’r fenyw yma wedi bod yn dysgu’r iaith ers tair blynedd trwy ddefnyddio SaySomethingInWelsh a gwersi Cymraeg i Oedolion. Cyn iddi ddod i weithgareddau’r Fenter roedd hi’n ddihyder iawn o ran defnyddio’r iaith tu fas i’r ddosbarth a doedd hi ddim yn adnabod unrhyw siaradwyr eraill yn yr ardal.

Mae’r Fenter wedi helpu’r fenyw i ddod mewn i gysylltiad gyda siaradwyr rhugl a phobl eraill sydd wedi croesi’r bont o fod yn ddysgwyr i siaradwyr rhugl yn ystod ein boreau coffi a chlybiau brecwast. Trwy gynnal sgyrsiau anffurfiol dros baned ym Mharc Bryn Bach mae’r Swyddog Datblygu wedi helpu hi gyfathrebu gyda siaradwyr iaith gyntaf trwy esbonio termau tafodieithiol a helpu hi boeni llai am wneud camgymeriadau wrth siarad.”

Profiad calonogol a welodd gynnydd yn hyder yr unigolyn, fel yr esboia;

“Mae dod i foreau coffi Menter Iaith wedi gwella fy Nghymraeg llawer. Mae Cymraeg yn teimlo fel iaith naturiol nawr, dwi’n siarad Cymraeg gyntaf gyda phobl yn lle Saesneg nawr heb feddwl – hyd yn oed gyda phobl yn siop sydd ddim yn siarad Cymraeg!

Mae ymarfer Cymraeg pob wythnos yn y bore coffi yn helpu fy hyder. Gwelais i ferch tu ol y cownter yn Asda yn gwisgo bathodyn oren Cymraeg ac nes i ddweud i hi fy mod i yn siarad Cymraeg a chael sgwrs gyda hi heb boeni beth roedd hi’n meddwl o safon fy iaith.”

Mae grwpiau a sesiynnau ymarfer cyffelyb yn digwydd ar draws y wlad, unai trwy’r Fenter Iaith, y llyfrgell leol neu gan fusnesau fel caffis neu siopau Cymraeg. Cysylltwch gyda’ch Menter Iaith leol am fwy o wybodaeth.