Rhowch y Gymraeg yn yr hosan ’Dolig a mwynhewch y Gymraeg adref dros y gwyliau yw’r neges gan Menter Iaith Môn i deuluoedd Cymru, wrth lansio cyfres newydd Selog o apiau ‘Ioga’, ‘Canu 2’ a ‘Symud’ yn yr awyr agored.
Bu ymateb gwych eisoes i dreialu’r ap ‘Ioga Selog’ gyda Leisa Mererid sy’n cynnwys 12 safle ioga, delweddau trawiadol, a dilyniant hawdd i’w cofio. Mae’r ap ‘Canu 2 Selog’ yn cynnwys ffefrynnau fel ‘Pen, Ysgwyddau’ a ‘Pren ar y Bryn’ yn ogystal â tiwn dysgu’r wyddor, dyddiau’r wythnos a’r misoedd i ddysgwyr Cymraeg. Yn ogystal, bu brwdfrydedd mawr gan y teuluoedd fu’n treialu’r ap ‘Symud Selog’ gan ei fod yn gyfuniad o adnabod enwau natur a thynnu lluniau fel cofnod, yn ogystal â rhigymau ffitrwydd awyr agored sy’n cynnwys sgipio, sgiliau pêl, a chlapio i rigwm ‘Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch’! Yr ap perffaith ar gyfer dysgwyr Cymraeg mentrus.
- Ioga Selog
- Canu Selog 2
- Symud Selog
Esboniodd Nia Thomas ar ran Menter Iaith Môn:
“Mae apiau Selog yn mynd o nerth i nerth. Datblygwyd apiau ‘Canu’ a ‘Darllen’ gwreiddiol Selog yn 2017 mewn ymateb i gais rhieni di-Gymraeg Caergybi am adnoddau i gefnogi eu plant yn y cartref. 19,000 lawrlwythiad yn ddiweddarach, fe ddaeth yn amlwg fod apêl yr apiau yn ymestyn ar draws Cymru ac yn wir mor bell â Japan a Phatagonia. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn am y grant gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru sydd wedi ein galluogi i ddatblygu’r tri ap diweddaraf ‘Ioga’, ‘Canu 2’ a ‘Symud’ a’r cyfle i’w treialu gyda theuluoedd Caergybi. Ein hapêl dros y gwyliau Nadolig yw i deuluoedd ganiatáu i’r Gymraeg barhau o’r ysgol i’r cartref drwy gynnwys apiau Cymraeg Selog ar y teclynnau digidol a ddefnyddir gan y plant. Anrheg yw’r Gymraeg byddent yn ei werthfawrogi ymhell i’r dyfodol.”
Mae pump ap di-dâl Selog ar gael i bawb ar draws Cymru a thu hwnt i’w lawrlwytho ar eu ffonau iPhone neu Android, neu declynnau iPad a thabled. Mae’r adnodd yn cefnogi amcanion Menter Iaith Môn, Mentrau Iaith Cymru a Llywodraeth Cymru o sicrhau bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Wrth i nifer gynyddol o rieni weld mantais gymdeithasol, addysgiadol a gyrfaol i’w plant o fod yn ddwyieithog, mae adnoddau hwyliog trochi Cymraeg, megis apiau Selog a Magi Ann, yn ennyn poblogrwydd fel modd o gefnogi datblygiad plant yn y cartref. Adborth cyffredin o ddefnyddio ap Selog yw’r un a gafwyd gan riant di-Gymraeg ardal Caergybi “My daughters and I had a great time! Please keep up the great work, we need more activities in the medium of Welsh for our kids to thrive in Welsh!”
Datblygwyd apiau Selog gan Menter Iaith Môn. Ariannwyd y tri ap newydd, a’r 13 gweithgareddau cymunedol cysylltiedig, drwy grant Arian i Bawb y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cynhyrchwyd yr apiau gan gwmni SbectolCyf, a bu’r arbenigwraig ioga i blant, Leisa Mererid, a’r hyfforddwraig ffitrwydd a symud Eirian Williams yn cyfrannu eu harbenigedd i ddatblygu’r gweithgareddau. Richard Owen, Bocsŵn fu’n arwain ar y canu a chafwyd cyfraniad arbennig gan y gyfansoddwraig Ceri Gwyn sydd wedi rhannu ei chân Gŵyl Dewi ‘Mis Mawrth Unwaith Eto’ ar ap ‘Canu 2’.