Mae’r rhwydwaith yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r Fenter Iaith Gyntaf.

Ymuna â ni i edrych yn ôl ac edrych ymlaen i’r 30 mlynedd nesaf yng nghwmni Dafydd Iwan fel rhan o raglen Cymdeithasau Eisteddfod AmGen.

Cafodd y sgwrs ei recordio ymlaen llaw ym mis Gorffennaf gyda phanel o weithwyr, cyn weithwyr a gwirfoddolwyr y rhwydwaith, sef:

  • Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru
  • Iwan Hywel, Arweinydd Tim Mentrau Iaith Cymru
  • Nia Arfon, cyn Brif Swyddog Menter Iaith Môn
  • Gethin Thomas, gwirfoddolwr Menter Cwm Gwendraeth Elli

Bydd y sesiwn ar gael i’w wylio ar ddydd Mercher, Awst 4ydd o 11:30yb ymlaen.