Mae’r enwau cyntaf wedi eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Tawe 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar ddydd Sadwrn yr 8fed o Fehefin.

Yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus yn ei chartref newydd yn 2023, bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd cyffrous ac amrywiol. Ymysg yr enwau a fydd yn perfformio eleni bydd N’famady Kouyaté a HMS Morris.

Mae N’famady Kouyaté yn gerddor dawnus, egnïol o Guinea (Conakry), a symudodd i Gaerdydd (Cymru) yn 2019. Mae’n aml-offerynnwr talentog a synnodd cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon gyda’i ddehongliadau modern o ganeuon traddodiadol Mandingue o orllewin Affrica wrth gefnogi Gruff Rhys ar y daith ar gyfer ‘Pang!’. Prif offeryn N’famady yw’r balafon – seiloffon pren traddodiadol sy’n sanctaidd i ddiwylliant gorllewin Affrica a’i dreftadaeth deuluol griot/djeli. Enillodd y gystadleuaeth ‘Emerging Talent’ ar gyfer gŵyl Glastonbury yn 2023, a bydd N’famady yn dod a’i fand llawn i Gŵyl Tawe yn yr haf, gan ddychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf ers ei gig llawn dop yn Elysium ym mis Mehefin 2022.

…caleidosgop o synau a lliwiau bywiog, cyflwyniad hudol a llawen i artist gwirioneddol ryngwladol” – Bill Cummings, God Is In The TV

Mae HMS Morris yn fand art-rock dwyieithog o Gaerdydd, Cymru sydd wedi ennill llu o wobrau am eu cerddoriaeth. Wedi eu cefnogi gan y label o fri Bubblewrap Collective (Georgia Ruth, Boy Azooga, Buzzard Buzzard Buzzzard, Sweet Baboo), maent nawr wedi rhyddhau tri albwm sydd wedi derbyn canmoliaeth adolygwyr – ‘Interior Design’, ‘Inspirational Talks,’ ac yn fwyaf diweddar ‘Dollar Lizard Money Zombie’ yn 2023. Maent wedi ennill enw da am eu sain arloesol ac aml-ddimensiwn sy’n gwthio ffiniau ac yn archwilio tiriogaethau anghyfarwydd.

Cerddoriaeth pop arloesol, blaengar” – Earthly Pleasures

Hefyd yn perfformio ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a’r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa bydd Bitw, Breichiau Hir, Ci Gofod, KIM HON, Mellt, Parisa Fouladi, a Worldcub, gyda mwy o enwau dal i’w cyhoeddi.

Mae’r ŵyl yn gwbl rhad ac am ddim i’w fynychu, gyda’r amgueddfa yn agor am 10:00 a’r adloniant yn parhau hyd at 21:00. Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd yna hefyd sioeau theatr rhyngweithiol i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol, ac amrywiaeth o weithdai creadigol wedi eu darparu gan bartneriaid Menter Iaith Abertawe yng nghyntedd yr amgueddfa.

Rydym yn gyffrous iawn i rannu’r enwau cyntaf ar gyfer Gŵyl Tawe 2024 gyda phawb. Roedd yr adborth o’n blwyddyn gyntaf yn yr amgueddfa yn wych, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dychwelyd eto eleni. Rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod ffantastig arall o ddiwylliant a cherddoriaeth Gymreig, gyda phopeth yn rhad ac am ddim yng nghanol dinas Abertawe.”– Tomos Jones; Prif Swyddog, Menter Iaith Abertawe / Gŵyl Tawe, Cyfarwyddwr Creadigol

Am y tro cyntaf eleni, bydd yr ŵyl hefyd yn ehangu i fod yn ddigwyddiad deuddydd gyda pharti cloi arbennig yng nghwmni Melin Melyn yn y Bunkhouse ar nos Sul y 9fed o Fehefin i orffen y penwythnos mewn steil. Ers dod i’r amlwg o gymoedd heulog Cymru, mae Melin Melyn wedi syfrdanu gwrandawyr yn gyson gyda’u cyfuniad unigryw o surf-rock, gwerin a phop seicedelig sydd wedi eu gosod ar wahân i bron pob band cyfoes arall ac sydd wedi arwain at gymariaethau haeddiannol â Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Roedd eu gig olaf yn y Bunkhouse wedi gwerthu mas, felly gwnewch yn siŵr i fachu eich tocynnau’n gyflym – mae tocynnau ar werth nawr.

Cyflwynir Gŵyl Tawe 2024 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth bellach gan Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, a’r Bunkhouse Abertawe.