Mae WYTH yn brosiect dwy flynedd yn hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig. Nod y cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng Menter Iaith Maldwyn, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwlwm Celtaidd a nifer o artistiaid llawrydd yw dathlu dawnsio gwerin a chlocsio a chreu cyfleoedd i dorri tir newydd yn y maes.

Ariennir y prosiect trwy gynllun nawdd Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd sawl cainc wahanol i’r prosiect. Gellir dilyn y datblygiadau diweddaraf ar Instagram, Twitter a Facebook y prosiect @8WYTH.

Mae dau gyfle cyffrous iawn gan WYTH ar gyfer haf 2024.

  1. COMISIWN WYTH – £5000 ar gael i ddatblygu sioe neu berfformiad sy’n cyfuno dawnsio traddodiadol gydag unrhyw genre arall i’w berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau mis Gorffennaf yma ac yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynnon Taf mis Awst yma. Mwy o wybodaeth yma.
  2. TWMPDAITH- Swyddi haf ar gyfer wyth o gerddorion neu ddawnswyr ifanc rhwng 16-25 (ish). Derbynnir wythnos o hyfforddiant cyn teithio o amgylch Cymru (a Lorient) yn cynnal twmpathau. Mwy o wybodaeth yma.

Meddai Sioned Edwards ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, “’Da ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol mor falch o fod yn rhan o brosiect sy’n cynnig llwyfan i feithrin talent greadigol ym maes dawnsio traddodiadol Cymreig. Mae creu llwybrau creadigol i ddawnswyr yn gymorth i ddatblygu, hyrwyddo a diogelu traddodiad i’r dyfodol ac yn cynnig cyfleoedd uchelgeisiol proffesiynol. Fe welsom ni hyn gyda comisiwn 2023. Gyda Clocselectra, cafwyd perfformiadau grymus ac arloesol gan y ddwy chwaer Lleucu ac Enlli Parri, wrth iddyn nhw gyfuno clocsio, cerddoriaeth electroneg a lwp dan fentoriaeth Ed Holden. ‘Da ni’n gyffrous iawn i weld pa syniadau daw i’r fei ar gyfer Comisiwn 2024.”

Ychwanegodd Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn a chydlynydd y prosiect, “Mae dawnsio gwerin, clocsio a thwmpathau yn rhan mor bwysig o’n hunaniaeth a threftadaeth fel Cymry. Ond yn fwy na hynny, mae dawnsio yn gymaint o hwyl ac yn llonni’r enaid yn ddi-os. Mae prosiect WYTH yn gyfle i ni fod yn chwareus ac yn arbrofol gan fynd a dawnsio traddodiadol Cymreig i dir newydd. Roedd TwmpDaith 2023 yn lwyddiant ysgubol, gyda cynulleidfaoedd ar draws Cymru ar eu traed yn dawnsio i egni a brwdfrydedd heintus y band. Roedd Tŷ Gwerin yn llythrennol yn bownsio ar gyfer gig olaf y daith! Yn ogystal â theithio ar draws Cymru eto yr haf yma gyda band TwmpDaith newydd yn cynnal twmpathau mewn gwyliau a neuaddau pentref, rydym wrth ein boddau i gael partneriaeth gyda Urdd Gobaith Cymru i fynd a’r criw draw i Ŵyl Geltaidd Lorient yn Llydaw. Am brofiad!”