Dyma fydd un o gwestiynau Cynhadledd Flynyddol Swyddogion y Mentrau sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gymraeg newydd sbon Caerdydd, yr Hen Lyfrgell yfory, 2il o Chwefror.

Bydd y sesiynau, sy’n tynnu swyddogion datblygu a phrosiect o bob cwr o Gymru at ei gilydd yn canolbwyntio ar rai o ymgyrchoedd marchnata Cymreig mwyaf llwyddiannus er mwyn dod o hyd i ffurf gwell o hyrwyddo manteision y Gymraeg ar lawr gwlad.

Bydd Ian Gwyn Hughes, o Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn dod i drafod gobeithion Tîm Pêl-droed Cymru yn yr Ewro 2016 yn ogystal â thrafod eu hymgyrch genedlaethol ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach’ sydd wedi dod ag amlygrwydd i bwysigrwydd y Gymraeg yng ngwead hunaniaeth Gymreig.

Ochr yn ochr â hyn bydd Richard Houdmont, gynt o’r CIM (Sefydliad Marchnata Siartredig) yn herio rhai o ganfyddiadau’r cyhoedd am y Gymraeg ac yn arwain sesiwn ar gynllunio Marchnata fydd yn procio ac yn cwestiynau prif rôl y Mentrau Iaith wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru.

Dywed Iwan Hywel, Swyddog Hyfforddiant Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r gynhadledd yn gyfle gwych inni, fel swyddogion y Mentrau ddod at ein gilydd i drafod syniadau newydd, dysgu wrth ein gilydd ac edrych ar brosiectau/meysydd newydd i’w datblygu.

Eleni, rydym wedi bod yn cynnal ein cynadleddau mewn canolfannau iaith ac rydym yn hynod gyffrous o gael y cyfle i fod y mudiad cyntaf i ymweld â Chanolfan Gymraeg newydd Caerdydd, yr Hen Lyfrgell, canolfan, fydd yn ganolbwynt i weithgarwch Gymraeg ein prif ddinas.”

Er mai cynhadledd breifat yw hon, bydd modd dilyn hynt y trafodaethau ar ein cyfrif Twitter