A wyddoch chi mai 21 Ebrill yw Diwrnod Gylfinir y Byd! Yn does yna ddiwrnod am bob dim? Pam felly bod y gylfinir yn haeddu ‘diwrnod’ arbennig?

Fel sydd yn aml yn wir mae’r term Cymraeg safonol yn disgrifio aderyn hir-goes mwyaf Prydain i’r dim: yr aderyn efo’r ‘gylfin’ – pig – hir! Mae’n anodd ei gam-adnabod gan fod pig gylfinir, sydd fel bwa hir gosgeiddig yn plygu am i lawr, i’w gweld yn amlwg. Mae’r coegylfinir yn berthynas agos sydd hefyd efo pig hir ond sydd dipyn llai a dim ond i’w weld yng Nghymru tra’n mudo. Efallai i chi weld y gylfinir yn chwilio am enweiriau a llyngyr drwy brocio gwastadeddau llaid ein glannau môr gyda’i big andros o hir, ystwyth a sensitif.

Un enw o blith rhyw 13 enw lleol ledled Cymru yw’r gylfinir. Mae’n bosibl bod hyn yn arwydd o’r ffaith ei fod yn agos at galonnau ni Gymry. Daw gliw ynglŷn â pham bod hyn yn wir o gasgliad o enwau sy’n cyfeirio nid at ei big hir ond at ei alwad sef: chwibanogl y mynydd, chwibanwr, whibonog, whibanwr. Mae’n anodd disgrifio’r alwad – mae’n rhaid ei glywed – ac mae’n anoddach fyth rhoi bys ar yr union effaith mae’n cael arnom. Mae beirdd a llenorion y canrifoedd wedi ceisio gwneud gan gynnwys R Williams Parry yn ei gerdd Y Gylfinir. Dyma drefniant ohoni yn cael ei chanu gan Charlotte Church.

Fersiynau o’r enw gylfinir yw rhai o’r enwau eraill sef: gylfiniog, glafinir, glofeinir ac mae’n bosib bod gan rhai eraill berthynas efo’r enw Saesneg ‘curlew’ sef: giarliw a cwrlig. Un enw hoffus sydd yn cyfeirio at y pig yw Pegi Pig Hir. Mae dau enw yn achosi cryn grafu pen sef cŵn Ebrill ac aderyn glaw. Dyma eglurhad T Gwynn Jones (1871 – 1949) o ganlyniad i’w waith yn hel llên gwerin:

“Cŵn Ebrill, yw’r enw mewn rhai ardaloedd ar ylfinirod yn enwedig pan glywir eu galwadau liw nos yn y gwanwyn cynnar. Nid yw’r alwad yn annymunol ond gwn am rai sy’n arswydo wrth ei chlywed, er iddynt wadu unrhyw wybodaeth am Gŵn Annwn, a aethai ar un adeg ar herw am eneidiau’r meirw yn yr awyr.”

Pa enw bynnag y’u gelwid y ffaith drist yw bod gylfinirod yn prinhau i’r fath raddau mae perygl na fydd digon o’r boblogaeth ar ôl i nythu a magu cywion ar fawnogydd a rhosydd Cymru o 2033 ymlaen! Dyma pam bo diwrnod arbennig i dynnu sylw atynt ac at eu tranc. Mae cryn dystiolaeth bo’r wyau gylfinir cyntaf yn deor yng Nghymru oddeutu 21 Ebrill.

Mae cyfle i siaradwyr newydd i’r iaith yn ogystal â siaradwyr Cymraeg rhugl ddysgu mwy a gweld y gylfinir drostyn nhw eu hunain mewn gweithgaredd bore dydd Llun 20 Mai. Cysylltwch â judith@mentrauiaith.cymru am fwy o fanylion. Yn anffodus nid oes copi bellach ar gael o Lyfr Adar Iolo Williams er efallai gellid cael copi o siop ail-law! Y lle i gael gafael ar y term safonol Cymraeg ar lawer o rywogaethau yw y Bywiadur ar wefan Llên Natur. Am fwy o wybodaeth am ylfinirod ewch i wefan Gylfinir Cymru neu prosiect Cri’r Gylfinir yn ardal Ysbyty Ifan a Hiraethog.

Y Gylfinir

Dy alwad glywir hanner dydd
fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos
Fel chwiban bugail a fo gudd
Dy alwad glywir hanner nos,
Nes clywir pan ddwysa dy sŵn
cyfarth dy anweledig gŵn.

R. Williams Parry

Cerdd diweddar Talwrn y Beirdd

Mi deimlaf heddiw feini’r gwynt
Yn hyrddio’u neges am a ddaw
Pan sleifia’r gaeaf ar ei hynt
A’m gadael innau gyda’r glaw;
A gwelaf grinder deiliach brown
Yn siglo’ nghangau’r awel ffri,
Ond rhof y byd i gyd pe cown
I fynd â’r hydref gyda mi.
Ond eto, mae ’na rywbeth iach
Ar fore oer o eira glân
O estyn am ryw flanced fach
A swatio’n sownd o flaen y tân,
A chri Cŵn Ebrill trwy yr ias
Yn hebrwng ataf wanwyn glas.

Ioan Gwilym

Gylfinir

O bell ar yr awel daw dy alaw.
Gan chwyddo’n fwrlwm melodaidd,
mae’n ffrydio dros fy mriwiau,
a fy mhlycio,
fy nghludo’n ysgafn i arall-fyd,
cyn i dy nodau lithro,
yn un rhuban hir prudd,
a gadael adleisiau’n dirgrynu’n dyner,
yn des uwchben y rhos.

Beth yw dy gân ddi-air gylfinir,
sy’n anwesu f’enaid?
Dathlu meddiannu’r eangderau pellennig,
cyn tristwch ffarwelio â’r mawnogydd,
a gadael ar dy ôl
unigeddau llawn ysbrydion mud,
a gwacter digalon ynof.

Siân Shakespear