Ddiwrnod heuldro’r gaeaf (21/22 Rhagfyr), mi ydan ni’n dathlu atgyfodi’r haul a dychwelyd gwres a golau i’r byd. Ac mae llawer o ddiwylliannau yn hemisffer y gogledd wedi gwneud yr un fath ers canrifoedd.

‘Alban Arthan’ mae’r derwyddon yn galw’r diwrnod hwn, ‘golau’r gaeaf’, lle mae ‘Arthan’ yn air am y gaeaf sy’n cyfeirio at yr arth fawr sydd mor amlwg yn y ffurfafen aeafol. Ac nid yn unig y sêr oedd yn arweinwyr hanfodol yn yr awyr drwy gydol y flwyddyn; roedd golau’r haul yn holl bwysig yn nefodau Celtaidd yr heuldro sy’n gysylltiedig â siambrau claddu a chylchoedd cerrig. Yn hynny o beth mae ein dathliadau Nadolig yn debyg, a geni Crist, ‘golau’r byd’, yn digwydd yn agos at ddiwrnod heuldro’r gaeaf i’n atgoffa ein hunain o gylch bywyd parhaus, gan addo diwedd y tywyllwch.

Heddiw mae gwyddoniaeth a phrofiad yn ein helpu i ddeall bod troad y rhod yn digwydd bob blwyddyn, ond filoedd o flynyddoedd yn ôl ni allai ein cyndeidiau gymryd dychwelyd yr haul yn ganiataol. Roedd y dathliadau gaeafol nid yn unig yn codi’r ysbryd ar amser tywyll ac oer, ond roedd addoli golau a gwres yn hanfodol i ganiatáu blwyddyn arall o gnydau.

Peth handi i unrhyw ddathliad yw tipyn o symboliaeth i gyfleu neges y dathlu. Ac os edrychwch o’ch cwmpas am ysbrydoliaeth, mi gewch ddigon o symboliaeth adnewyddu yn y planhigion bythwyrdd sy’n para’n wyrdd a byw drwy’r misoedd llwm. Mae’r carol yn dathlu’r celyn a’r eiddew, ond peidiwch ag anghofio’r ywen neu’r uchelwydd rhyfeddol!

Y rhinweddau ysbrydol a gysylltwyd â’r uchelwydd oedd iachau, ffrwythlondeb a chadw’r drwg i ffwrdd, ac roedd y derwyddon Celtaidd yn ei addoli am ei ffrwythau ganol gaeaf pan mae popeth arall yn mynd i gwsg. Gyda mymryn o wirionedd a thipyn go lew o fyth yn y credoau hynny, mae’n blanhigyn go ryfeddol. Mae’n egino ar risgl coed lle mae adar wedi rwbio eu pig yn lân o’r aeron gwyn gludiog, a’r hedyn yn sticio i’r rhisgl nes iddo wreiddio. Dyma ddechrau perthynas hemi parasitig sy’n darparu dŵr a maeth i’r uchelwydd. Ni wneith wreiddio yn y ddaear.

Mi ffeindiwch chi’r uchelwydd ar goed poplys a phisgwydd, ond yn amlach na heb ar goed afal; ac er y cysylltwn yr uchelwydd â’r derwyddon, prin mae ar gael ar dderw! Efallai mai dyna pam yr oedd mor sanctaidd iddyn nhw. Yng Nghymru, gwelwn y peli crwn ran amlaf ar goed perllan yng ngororau Mynwy a Gwent. Mae’n hollol drawiadol yn y gaeaf pan mae’r coed wedi diosg eu dail eu hunain, a’r peli gwyrdd yn addurno’r coed.

Yn anffodus mae perllannau yn gynefin sy’n prinhau, yn enwedig ers i lafur tymhorol ffermydd ffrwythau fod yn anoddach i’w gael, ac nid yw sefyllfa’r uchelwydd yn ddiogel. Ac felly am yr adar sy’n hoff o’r aeron yn y gaeaf: frych y coed, socan eira a choch dan adain, ynghyd â nifer o wyfynod. Felly, byddwch yn ofalgar pan dach chi’n casglu uchelwydd i addurno’ch cartref, a gadewch ddigon ar ôl i’r anifeiliaid!

Cofiwch fod modd chwilio am enwau rhywogaethau yn Gymraeg neu Saesneg ar wefan Llên Natur.

Celyn – holly

Eiddew – ivy

Ywen – yew

Poplysen – poplar

Pisgwydden – lime tree

Brych y coed – mistlethrush

Socan eira – fieldfare

Coch dan adain – redwing