Mae teithiau o dan faner “Ar Droed” wedi bod yn boblogaidd iawn ers pum mlynedd bellach ac yn parhau eto eleni gydag ymweliadau â chynefinoedd pobl enwog yn hanes Cymru a sgyrsiau gyda siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd mwyafrif byd eang .
Partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith yw’r teithiau sy’n cynnig profiadau arbennig i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol. Dechreuodd y teithiau yn ystod cyfnod Covid gyda theithiau tywys ym myd natur yng nghwmni Iolo Williams. Datblygodd i gynnwys adeiladau arwyddocaol, amgueddfeydd, gerddi a lleoliadau chwaraeon yn ystod y blynyddoedd gan gynnwys y Senedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Gerddi Botaneg Cenedlaethol a’r Cae Ras yn Wrecsam – i enwi rhai o’r uchafbwyntiau.
Eleni bydd cyfle i siaradwyr Cymraeg newydd a phrofiadol brofi teithiau gwahanol rhwng mis Hydref 2026 a Mis Mawrth 2027. Bydd un gyfres o bedair taith yn ymweld â chynefinoedd pobl enwog yn hanes Cymru, sef
- Yr Ysgwrn – cartref Hedd Wyn gydag arweinydd o’r Ysgwrn
- Hwlffordd – cynefin Waldo Williams gyda’r actor Ryland Teifi,
- Llantrisant – cynefin y Dr William Price dan arweiniad Siôn Tomos Owen,
- Taith Hanes yn yr Wyddgrug dan arweiniad Kevin Matthias fydd yn rhan o Ŵyl Daniel Owen.
Bydd ail gyfres yn dilyn taith iaith tri awdur o gefndiroedd mwyafrif byd eang gan ddechrau gyda sgwrs gyda Natalie Jones yn yr Egin, Caerfyrddin, sy’n rhan o ddathliadau Wythnos Dathlu Dysgu. Bydd sgwrs gyda Malachy Edwards ym Mhorthaethwy a sgwrs gyda Wayne Howard yng Nghaerdydd.
“Rydym yn gobeithio dangos i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg profiadol bod y siwrnai at y Gymraeg ac efo’r iaith wedyn yn amrywiol iawn a bod y Gymraeg wir yn perthyn i bawb. Mae hanes a gwreiddiau’r tri awdur mor ddiddorol ac yn werth eu clywed.” medd Daniela Schlick, Rheolwr Busnes a Phrosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru.
Bydd y digwyddiadau’n cyflwyno cynefinoedd, hanesion ac agweddau gwahanol Cymru’r gorffennol a’r presennol i’r mynychwyr – ac wrth gwrs bydd pob digwyddiad yn cynnwys paned a chyfle i sgwrsio yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.
Medd Daniela Schlick:
“Rydym wedi bod yn gwrando ar syniadau’r dysgwyr sydd wedi bod ar y teithiau o’r blaen wrth drefnu’r teithiau eleni. Roedd adborth mynychwyr y teithiau mor gadarnhaol gyda phawb yn mwynhau’r cyfle i siarad Cymraeg a dysgu rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn arbennig o falch bod pobl wych fel Ryland Teifi, Jon Gower a Siôn Tomos Owen yn ymuno â ni. Mae’n gyfle i ni gynnig rhywbeth arbennig eto.
“Rydym yn falch iawn o allu cynnig y teithiau eto eleni, diolch i’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n rhoi cyfle i ni gynnig rhywbeth arbennig i ddysgwyr Cymraeg yn bennaf, ond i siaradwyr profiadol hefyd sydd awydd ymuno â´r teithiau.”
Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae’r teithiau yma yn rhoi cyfle gwych i’n dysgwyr ddefnyddio a mwynhau eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, gan ddysgu mwy am hanes, diwylliant a daearyddiaeth Cymru, hefyd.
“Maen nhw’n boblogaidd bob blwyddyn, a’r arlwy eleni yn sicr o ddenu diddordeb.”
Mae’r teithiau i siaradwyr Cymraeg – hen a newydd. Ac mae croeso arbennig i aelodau cynllun SIARAD gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n gyfle gwych i ymarfer a defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, wrth fwynhau treftadaeth a diwylliant Cymru.
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru
Dyma’r teithiau eleni:
- Sgwrs gyda Natalie Jones – “Breuddwyd o Birmingham, Pwllheli a’r Gymraeg”
yr Egin, 21/01/2027, 12:30yb – 14:00yp, Helen Prosser yn holi - Sgwrs gyda Malachy Edwards – “O Ynys Môn i Ynys Barbados ac yn ôl”
Clwb Criced Porthaethwy, 06/02/2027, 10:30yb – 12:00yp, Eirian Conlon yn holi - Sgwrs gyda Wayne Howard – “O Jamaica i Gaerdydd: Olrhain hanes dyn positif”
Canolfan Yr Urdd Caerdydd, 16/02/2027, 10:30yb – 12:00yp, Jon Gower yn holi
- Gŵyl Daniel Owen – Taith Hanes yn Yr Wyddgrug gyda Kevin Matthias
Glasfryn, yr Wyddgrug, 15/10/2026, 10:00yb – 12:00yp - Cartref Hedd Wyn gydag arweinydd o’r Ysgwrn
Yr Ysgwrn – 17/10/2026, 10:30yb – 12:00yp - Waldo Williams gyda Ryland Teifi
Capel Millin, Slebech, Hwlffordd, 28/10/2026, 10:30yb – 12:00yp - Dr William Price gyda Siôn Tomos Owen
Neuadd y Dref Llantrisant, 20/03/2027, 10:00yb – 12:00yp







