Hoffet ti weithio i redeg prosiect newydd a chyffrous?

Roedd teimlad ymhlith rhai o’r Mentrau Iaith fod elfen o’n treftadaeth mewn peryg, sef yr enwau Cymraeg a’r hanes a’r cyfoeth y maent yn eu cynnwys er mwyn deall ein gorffennol. Byddwn yn ymgysylltu er mwyn rhedeg prosiect a fydd yn cyflwyno gwahanol elfennau o dreftadaeth naturiol, o hanes, chwedlau, archeoleg, enwau lleoedd ac enwau rhywogaethau i gyd yn Gymraeg a dwyieithog.

Bydd y gwaith, neu adnoddau a fydd yn cael eu creu yn sgìl y cynllun ar gael ymhell wedi cyfnod y cynllun, ac ar gael i unrhyw un eu defnyddio. Byddwn yn creu, defnyddio a rhannu adnoddau gwreiddiol a thrwy gyrff eraill er mwyn addysgu a chyflwyno enwau creaduriaid gwyllt, planhigion a choed yn ein cynefinoedd naturiol.

Hybyseb, Ffurflen gais a Swydd ddisgrifiad isod

Dyddiad cau: Hanner dydd, Dydd Llun 26ain Mehefin 2023