gyda Menter Iaith Conwy
Mae’r Cynllun yma wedi cael ei sbarduno gan y sefyllfa o ran tai yn Ardal Penmachno sy’n tanseilio’r gymuned a’r Gymraeg. Yn ôl arolwg defnydd tai mae 36% o eiddo’r ardal yn wag neu yn dai gwyliau. Mae Menter Iaith Conwy wedi sefydlu Pwyllgor Hwb y Llan ers nifer o flynyddoedd ac maent wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth greu bwrlwm yn y pentref ac adfywio adeilad yr Hen Ysgol. Rŵan efo partneriaid eraill fel y Cyngor Cymuned dymunwn fynd i’r afael â’r broblem yma. Parc Cenedlaethol Eryri sydd yn cyllido’r cynllun am 2 flynedd i ddechrau.
Prif Gyfrifoldebau’r Swydd:
- Ymgynghori hefo’r gymuned yn bellach
- Creu strwythur gweithredu a strategaeth hefo nodau ac amcanion penodol.
- Adnabod eiddo i’w berchnogi
- Cydweithio efo Cymdeithas Tai Gwynedd i hyrwyddo ei eiddo ym Mhenmachno
- Paratoi ceisiadau am arian
- Edrych ar gynlluniau codi rhandaliadau yn lleol i ariannu pryniant.
- Edrych ar gynlluniau Benthyg yn lleol* (Lle mae’r rhai sydd yn benthyg yn cael llog am eu benthyciad) i ariannu pryniant
- Arwain ar gyfansoddi a sefydlu grŵp er mwyn gallu gweithredu’r cynlluniau’n effeithiol
- Rheoli pob elfen o weithredu’r prosiect
- Creu proses o gasglu data fel bod modd mesur effaith y prosiect.
- Gweithio gyda galluogwyr tai gwledig i adnabod anghenion tai fforddiadwy o fewn ein cymunedau
- Gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o gyfraniadau ariannol tai fforddiadwy, a helpu i hyrwyddo tai fforddiadwy
- Annog tai deiliadaeth gymysg
Sgiliau a Gwybodaeth Angenrheidiol:
- Person ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo
- Yn meddu ar syniadau blaengar
- Yn gallu trefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol
- Yn gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm neu’n annibynnol
- Yn gallu cydweithio ac ysbrydoli eraill
- Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
- Yn rhugl ddwyieithog – ar lafar ac ysgrifenedig
- Yn meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth da
- Byddai profiad o weithio mewn Menter Iaith yn fanteisiol
- Byddai profiad neu gymhwyster o weithio gyda phlant neu bobl ifanc yn fanteisiol
- Byddai profiad o weithio yn cymunedol yn fantesiol
- Byddai profiad o weithio yn y maes tai yn fantesiol
- Byddai adnabyddiaeth o’r ardal yn fanteisiol
- Byddai Gradd neu safon addysg uchel o fantais
Dyddiad Cau: dydd Llun, 29 Gorffennaf 2024, 9yb
Cais trwy lythyr a CV at meirion@miconwy.cymru
Am fwy o wybodaeth a swydd ddisgrifiad, cysylltwch â meirion@miconwy.cymru neu ffoniwch 01492 642357

