Newyddion cyffrous! Mae Menter Iaith Casnewydd wedi derbyn cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhan o’u strategaeth i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i gynyddu canran y siaradwyr Cymraeg dyddiol o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050.

O ganlyniad, rydyn ni’n chwilio am Swyddog Prosiectau i helpu i farchnata ein gweithgareddau a chodi arian wrth i ni gychwyn ar bennod newydd gyffrous i hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghasnewydd.

SWYDD:                   Swyddog Prosiectau

LLEOLIAD:               Gweithio’n hyblyg – bydd modd trafod cyfuniad o weithio o gartref a gweithio ar adegau yn y swyddfa yng Nghanol Casnewydd. 

ORIAU GWAITH:    37.5 awr yr wythnos        

CYFLOG:                 £30,000

Am fwy o wybodaeth, ewch i Newyddion | Menter Casnewydd neu e-bostiwch post@mentercasnewydd.cymru