Prif Gyfrifoldebau’r Swydd:
Cynorthwyo a datblygu Pwyllgorau Ardal; Uwch Aled a Bro Aled, Sir Conwy; a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Prion, Saron, Nantglyn a’r ardal yn Sir Ddinbych.
Cynorthwyo Aelwydydd a Chlybiau Ieuenctid ar y cyd efo’r Urdd a Gwasanaeth Ieuenctid y Sir.
Sesiynau a digwyddiadau penodol i siaradwyr newydd (dysgwyr) gael defnyddio eu Cymraeg tu allan i dosbarth ar y cyd efo’r sefydliad cenedlaethol Dysgu Cymraeg.
Clwb Awyr Agored cyfrwng Cymraeg yn yr ardal (ar y cyd efo’r Urdd a Chwaraeon Cymru)
Ymholi i weld pa weithgarwch cymdeithasol Cyfrwng Cymraeg sydd ei angen a wedyn ei ddarparu.
Cydweithio efo Mudiad Meithrin a Chymraeg i Plant i ehangu ei gwasanethau yn yr ardal.
Byddwn hefyd yn ymgynghori yn bellach efo’n partneriaid trwy y Fforwm Sirol i cynllunio yn fwy strategol yn yr ardal.
Gweithio efo busnesau yr ardal i amlygu’r Gymraeg.
Ail-sefydlu Clwb Busnes Hiraethog.
Gwaith Cyfrwng Cymraeg. Hoffem amlygu cyfleoedd i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cydweithio ag Ysgolion a Choleg Llandrillo i amlygu
cyfleoedd sydd ar gael i weithio drwy’r Gymraeg. Er enghraift, mae prinder o weithwyr Gofal Plant yn y ddwy Sir. Byddwn yn cydweithio efo Mudiad Meithrin a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg (a sefydlwyd gan Menter Iaith Conwy) i ddatblygu’r agwedd yma.
Cofrestru gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG a mynychu hyfforddiant Amddiffyn Plant a Gwaith Ieuenctid.
Paratoi asesiadau risg ar gyfer digwyddiadau maes.
Hyrwyddo gwaith y menter trwy’r wasg a chyfryngau cymdeithasol.
Cysylltu efo cynllun Perthyn o fewn Cwmpas (Perthyn – Cwmpas) os oes awydd gan Cymuned i sefydlu Menter Cymunedol cymdeithasol newydd i ddarparu gwasanaethau. Cydweithio efo’r sefydliad ‘Dysgu Cymraeg’ (Croeso | Dysgu Cymraeg) er mwyn hyrwyddo cyfleuoedd i ddysgu Cymraeg a chefnogi teuluoedd di-Gymraeg i gymhathu trwy gweithgarwch cymdeithasol ac hyddorddiant.
Sgiliau a Gwybodaeth Angenrheidiol:
Person ymrwymedig i’r Gymraeg ac yn frwdfrydig dros ei hyrwyddo Meddu ar syniadau blaengar
Gallu trefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol
Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm neu’n annibynnol
Gallu cydweithio ac ysbrydoli eraill
Trefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
Rhugl ddwyieithog – ar lafar ac ysgrifenedig
Meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth da
Y gallu i yrru car yn hanfodol
Byddai profiad o weithio mewn Menter Iaith yn fanteisiol
Byddai profiad neu gymhwyster o weithio gyda phlant neu bobl ifanc yn fanteisiol
Byddai profiad o weithio yn ddwys gyda teuluoedd a phlant ifanc yn fanteisiol Byddai adnabyddiaeth o’r ardal yn fanteisiol
Byddai Gradd neu safon addysg uchel o fantais Byddai profiad neu gymhwyster amddiffyn plant yn fanteisiol.
Dyddiad Cau: dydd Llun, 29 Gorffennaf 2024, 9yb
Cais trwy lythyr a CV at meirion@miconwy.cymru
Am fwy o wybodaeth a swydd ddisgrifiad, cysylltwch â meirion@miconwy.cymru neu ffoniwch 01492 642357

