Mae Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am Reolwr Prosiect Gwreiddiau Gwyllt – prosiect sy’n hybu a datblygu defnydd y Gymraeg ym myd natur.
Cefndir y Prosiect
Roedd teimlad ymhlith rhai o’r Mentrau Iaith fod elfen o’n treftadaeth mewn peryg, sef yr enwau Cymraeg a’r hanes a’r cyfoeth y maent yn eu cynnwys er mwyn deall ein gorffennol. Felly datblygwyd cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gesio diogelu hyn a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf trwy adnoddau hawdd i’w defnyddio i sicrhau parhad o elfen bwysig o’n hanes a’n hunaniaeth.
Mae’r prosiect, sydd wedi bod yn rhedeg ers blwyddyn bellach yn darparu cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ymgysylltu, gwneud gweithgareddau a gwarchod eu treftadaeth naturiol, megis yr amgylchedd naturiol lle bynnag y bont yn byw. Rydym yn codi ymwybyddiaeth a gwarchod enwau lleoedd ac yn enwedig enwau rhywogaethau trwy gyflwyno’r enwau trwy hanes, chwedlau a storïau llen gwerin gyda’r amryw o grwpiau fydd yn rhan o’r cynllun hwn. Bydd hyn yn ei dro yn hyrwyddo ‘Naws am le’ a balchder pobl yn eu hardaloedd a’u diwylliant.
Mae’r prosiect hyd yma wedi llwyddo i ddenu dysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol i fynychu gweithgareddau megis teithiau cerdded mewn cynefinoedd gwahanol, gweithdai celf a digwyddiadau cymunedol yn ogystal â gweithdai gwahanol i ysgolion. Bellach mae cronfa ddigidol am adnoddau natur wedi’i chreu sydd yn cynnwys dros 130 o adnoddau yn Gymraeg. Mae rhwydwaith wedi ei sefydlu hefyd o unigolion a chyrff sy’n diddori yn y byd natur a’r Gymraeg er mwyn sicrhau cyd-gynllunio a chyd-drafod yn ystod ac ar ôl cyfnod y prosiect hwn.
Mae hon yn swydd rhan amser 3 diwrnod yr wythnos tan ddiwedd mis Mai 2025. Mae’n swydd o fewn Mentrau Iaith Cymru ond gallwn ystyried ceisiadau gan unigolion llawrydd.
Cyflog: £27,000 – £29,000 pro rata
Dyddiad cau: 11 Hydref 2024
Mae manylion y swydd i’w gweld yn y swydd ddisgrifiad.
Gallwch ymgeisio trwy lenwi’r ffurflen gais yma.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â post@mentrauiaith.cymru.

