Ar yr 22ain o Fehefin am 10yb bydd miloedd o blant ar draws Cymru yn rhedeg Ras yr Iaith i fwynhau a dathlu’r Gymraeg.
Nid ras arferol yw Ras yr Iaith, ond ras i fwynhau’r Gymraeg gyda ffrindiau. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos balchder ati a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Ac mae’r ras i bawb – os ydych chi’n siarad Cymraeg neu beidio.
Mae’r ras wedi’i seilio ar ras y ‘Korrika’ yng Ngwlad y Basg sydd wedi ysbrydoli ‘Ar Redadeg’, sef ras debyg yn Llydaw. Ac mae rasys tebyg yn Iwerddon, Catalwnia a Galisia. Digwyddodd Ras yr Iaith yng Nghymru yn 2014, 2016 a 2018 fel ras ar draws Cymru gan basio baton yr iaith ymlaen o gymal i gymal. Gyda ras rithiol yn 2020 llwyddodd y Mentrau Iaith a’r rhedwyr i gasglu miloedd o bunnoedd at elusennau’r Byrddau Iechyd yng Nghymru.
Eleni bydd 11 cymal ar draws Cymru ar yr un pryd i greu un digwyddiad mawr ar draws y wlad. Bydd y Ras mewn trefi fel Llangefni, y Rhyl, Aberystwyth, Wdig, Caerffili a dinas Abertawe – i enwi rhai ohonynt. Bydd rhai cymalau ar hyd promenadau’r trefi a rhai mewn stadiwm. Ceith plant Cei Connah gyfle i redeg ar drac Olympaidd!
Bydd ysgolion, grwpiau cymunedol a dysgwyr Cymraeg yn rhedeg gyda’i gilydd a mwynhau adloniant amrywiol – o gig Mei Gwynedd yn Aberystwyth i sesiynau gwawd lunio gyda Siôn Tomos Owen a sesiwn animeiddio ym Mhontypridd. Bydd ambell i fand lleol a band ysgol yn canu a bydd rhai pobl adnabyddus yn arwain y Ras. Bydd Dyfan Parry (Ffit Cymru) yn arwain ym Mhorthcawl a Dewi Pws yn Nefyn.

