Arolwg ar gyfer ymwelwyr a Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n siarad Cymraeg

Rydym yn casglu gwybodaeth am eich barn tuag at yr iaith Gymraeg fel y gallwn archwilio ffyrdd newydd o wella’r profiad ymwelwyr ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Bydd eich barn chi yn ein helpu ni i wneud hyn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi comisiynu Arwel Jones Ac Ati a Menter Iaith Conwy i wneud y gwaith hwn, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o’r Gronfa Adfywio Cymunedau ynghyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Buaswn yn ddiolchgar pe tai chi fel siaradwyr Cymraeg yn gallu eu lenwi ac annog eich cydweithwyr  i neud yn ogystal a’i rhannu a’r unrhyw rhywdweithiau perthnasol. Rydym yn awyddus iawn i allu cryfhau y profiad Cymraeg yn Sir Conwy ac mae angen barn siaradwyr Cymraeg a be hoffent ei weld.

Gofynnwn ichi dreulio ychydig o funudau’n ateb yr holiadur byr; dylai gymryd rhwng pump a deg munud i’w wneud.

Arolwg ar gyfer siaradwyr Cymraeg – Visitor experience and the Welsh language – Welsh speakers 2022 (snapsurveys.com)