Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am aelodau bwrdd annibynnol

Mae Mentrau Iaith Cymru yn mynd trwy’r broses o chwilio am aelodau bwrdd annibynnol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn frwd dros gynyddu defnydd y Gymraeg yn eu cymunedau, er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y Mentrau Iaith yn effeithiol.

Mae 5 lle ar Fwrdd Cyfarwyddwyr newydd Mentrau Iaith Cymru. Rydym yn awyddus bod un o’r aelodau yn berson ifanc 19 – 25 oed, ac rydym yn arbennig yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â phrofiad neu arbenigedd mewn:

  • Cydraddoldeb a chynhwysiant
  • Cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
  • Cynllunio ieithyddol a chymunedol
  • Denu nawdd

Bydd y Bwrdd yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn a bydd aelodau’r bwrdd yn cynorthwyo’r cyfarwyddwyr gweithredol i roi cyfeiriad strategol i waith Mentrau Iaith Cymru ac i eirioli dros y mudiad wrth iddyn nhw gefnogi gwaith y 22 Menter iaith ar draws Cymru.

Mae hon yn rôl ddi-dal, ond telir treuliau rhesymol

Dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw 18 Hydref am hanner dydd

Am ragor o fanylion cysylltwch â post@mentrauiaith.cymru

Ffurflen Gais