Mae Mentrau Iaith Cymru a PYST wedi cyhoeddi eu bod am gydweithio i lansio a datblygu cylchdaith gigs newydd ar gyfer artistiaid Cymraeg. Bydd y daith gyntaf yn digwydd yn y Gwanwyn.
Nôd y gylchdaith yw cynnig cyfleon i artistiaid deithio Cymru gyda’r pwyslais ar ymweld â mannau lle nad ydynt yn chwarae yn aml, os o gwbwl. Bydd y gylchdaith hefyd yn gyfle i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg yn ôl i ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o hynny dros y blynyddoedd diweddar. Y gobaith hefyd yw y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn ymgysylltiad pobl â diwylliant Cymraeg a rhoi cyfle o’r newydd iddynt fwynhau hynny yn eu hardaloedd.
Cefnogir y gylchdaith hefyd gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu cannoedd o neuaddau pentref a grwpiau cymunedol ledled Cymru i archebu sioeau proffesiynol.
Y bwriad yw y bydd o leiaf 4 taith y flwyddyn yn digwydd gyda chanolfannau ac ardaloedd yn amrywio o daith i daith. Bydd PYST yn gyfrifol am hyrwyddo cenedlaethol a chydlynu tra bydd y Mentrau Iaith yn gyfrifol am hyrwyddo lleol a chynnal y gigs. Mae’n bartneriaeth sydd yn manteisio ar gryfderau ac adnoddau y ddau sefydliad.
Dywedodd Heledd ap Gwynfor ar ran MIC “Mae’r Mentrau Iaith yn gyfarwydd â threfnu cyngherddau a gigs amrywiol ym mhob rhan o Gymru, ond wedi gweld y cyfnod diweddar yn un heriol iawn am resymau amlwg. Mae gallu cydweithio rhwng y Mentrau a gyda PYST yn golygu gallu cynnig cyfleon cyffrous i gynulleidfaoedd Cymru unwaith yn rhagor iddynt fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei orau.”
Dywedodd Alun Llwyd ar ran PYST “Mae’r gylchdaith yma yn rywbeth y mae mawr ei angen ac yn cynnig nid yn unig adnodd gwerthfawr i artistiaid a labeli wrth hyrwyddo recordiau ond yn gam pwysig I sicrhau bod cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg yn cael ei fwynhau yn gyson gan gynulleidfa ehangach a hynny o fewn eu hardal leol. Edrychwn ymlaen i weld y gylchdaith yn datblygu.”
Dywedodd Tomos Jones ar ran Menter Iaith Abertawe “Mae pawb yma yn Menter Iaith Abertawe yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r cynllun yma. Bydd sefydlu rhwydwaith o’r fath yn ein galluogi fel rheolwr Tŷ Tawe i ddenu artistiaid gwahanol i’r lleoliad a fyddai fel arall yn gweld hi’n anodd iawn i deithio yma ar gyfer un dyddiad yn unig. Bydd hyn i gyd yn cam enfawr at sefydlu cylch gigs cadarn a rheolaidd ar draws Cymru.
Dywed Peter Gregory ar ran cynllun Noson Allan “Mae partneru gyda’n gilydd yn ein helpu i gefnogi’r bandiau, cael gwared ar rywfaint o’r risg ariannol i grwpiau cymunedol o archebu sioeau ac yn cael cerddoriaeth gwych i gymunedau ar draws Cymru nid yn unig y dinasoedd mawr.”
Yn lansio y gylchdaith bydd y band o Gaerdydd HMS Morris gyda chefnogaeth gan Hyll, Mali Hâf, Elis Derby a Bitw ar wahanol rannau o’r daith. Manylion y daith:
MAWRTH
25 – Y Clwb, Llanrwst ( +Bitw)
31 – Iorwerth Arms, Bryngwran (+ Hyll)
EBRILL
1 – Cell B, Blaenau Ffestiniog (+ Hyll)
2 – Neuadd Gymuedol, Penybont Fawr (+Hyll)
6 – Yr Atom, Caerfyrddin (+ Mali Hâf)
7 – Canolfan Hermon, Crymych (+ Mali Hâf)
8 – Y Selar, Aberteifi (+ Mali Hâf)
14 – Clwb y Bont, Pontypridd (+ Elis Derby)
15 – Dros Ben Tân, Castell Nedd (+ Elis Derby)
17 – Coopers Arms, Aberystwyth (+ Bitw)

Am fanylion pellach:
Heledd ap Gwynfor – heledd@mentrauiaith.cymru
Alun Llwyd – alun@pyst.net
Tomos Jones – tomos@menterabertawe.org