Tyrd efo ni ar daith i fyd gwahanol. Dos i orwedd ar dy fol yn rhywle mewn gwair hir. Estyn chwyddwydr, a sbia drwy ei ffenest fach i fyd y pethau bychain. Edrycha’n ofalus ar ben gweiryn troed y ceiliog, ar betalau pysen y ceirw neu flodau llefrith, a rhyfedda at eu gwneuthuriad. Rhyfedda hefyd at y creaduriaid sy’n eistedd neu’n glanio ar y planhigion, glesyn efallai neu chwilen soldiwr.

Os nad wyt ti’n siŵr beth yw blodyn llefrith neu chwilen soldiwr, paid â phoeni! Mwynha a rhyfedda at beth bynnag weli di. Cei gwell siawns i gwrdd â chymeriadau amrywiol mewn gwair hir – yn anffodus, mae llawer o laswelltiroedd wedi colli eu lliwiau llawen a’u harogl o haf, a llawer o’n lawntiau a pharciau, ochrau ffyrdd a phorfeydd yn unffurf gwyrdd.

Rŵan, dychmyga olygfa wledig, unrhyw le. Pur debyg fydd darlun dy feddwl yn cynnwys glaswelltir o ryw fath; gweirglodd, porfa, gerddi, canol pentref; pobl yn gweithio, chwarae, loetran neu gael picnic. Mae glaswelltiroedd wedi bod yn rhan hanfodol o’n tirwedd cymdeithasol ac economaidd ers canrifoedd, a gweirgloddiau yn rhan o fywyd beunyddiol. Fe dorrid gwair ddiwedd yr haf – digwyddiad i’r pentref cyfan weithiau – ar ôl iddo dyfu drwy’r gwanwyn. Yn yr hydref, byddai gweirgloddiau’n cael eu pori tan tua’r Pasg, ac yn y gaeaf rhoid y gwair llawn maethynnau i’r anifeiliaid.

Ceir awyrgylch arbennig mewn gweirgloddiau: blodau, trychfilod, gweiriau a ffyngau. Bydd y planhigion yn darparu bwyd i wenyn, gwenyn hofro, gloÿnnod byw, pryfed cop a sboncod gwair. A’r rhain wedyn yn fwyd i adar ac anifeiliaid eraill.

Ond dros y ganrif ddiwethaf, mae newid syfrdanol wedi digwydd, a chollwyd amrywiaeth bywyd o lawer ohonynt. Dim ond 2% sydd ar ôl o’r gweirgloddiau oedd ym Mhrydain yn y 1930au. Bu iddyn nhw ildio lle i ddatblygiadau tai, planhigfeydd coed, tir pori “gwell” (mathau o weiriau sy’n cynnwys mwy o siwgwr i besgi anifeiliaid ynghynt) a lawntiau. Bydd llawer ohonom o’r farn bod gofodau gwyrdd cyhoeddus ar eu harddaf pan yn unlliw gwyrdd, wedi eu torri’n gwta.

Ar y caeau gwyrddion hyn, amddifedir bywyd gwyllt rhag bwyd. Gyda llai o laswelltiroedd amrywiol yn y wlad, a llai o gysylltiad rhyngddyn nhw, mae’n anoddach i greaduriaid symud o gwmpas – fel ni, mae anifeiliaid yn gyndyn o deithio lle nad os bwyd a llety da ar gael!

Ond mae na bethau fedrwn ni wneud. Os wnest ti fwynhau edrych ar fyd estron, cym ran yn yr ymgyrch ‘Mai di-dor’ i roi cyfle, bwyd a lloches i fywyd gwyllt. Gad i dy lawnt dyfu drwy fis Mai neu drwy’r haf, ac mi weli di nifer y planhigion yn cynyddu. Cymer olwg ar blodaugwyllt.cymru i ddarganfod ein blodau brodorol, a chei wybodaeth am weirgloddiau ar www.magnificentmeadows.org.uk. Mae prosiect Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth wrthi’n hel adnoddau byd natur yn Gymraeg, a bydd y gronfa ar gael i bawb mewn un man ar y we ar ddiwedd y prosiect.

Ydi hyn yn helpu?

troed y ceiliog – cocksfoot
pysen y ceirw – bird’s foot trefoil
blodyn llefrith – lady’s smock, cuckoo flower
glesyn – blue butterfly
chwilen soldiwr – soldier beetle
gweirglodd – hay meadow
trychfil – insect
pry cop – spider
sboncyn gwair – grass hopper