Mae sawl peth yn nodi treigl amser rhwng gaeaf a gwanwyn, a blodau’r maes yw rhai o’r arwyddion amlwg. Gwelwch y briallu (er i’w gweld ers y Nadolig mewn ambell i le) yn darparu gwledd o flodau erbyn diwedd Chwefror, ac ar y dyddiau cynnes cyntaf, bydd gloÿnnod byw sydd wedi goroesi’r gaeaf, megis melyn y rhafnwydd neu’r trilliw bach, yn falch o’r neithdar. Bydd bylbiau gwanwyn yn ychwanegu’r lliwiau llachar at ein gerddi rydym wedi dyheu amdanynt, a’r cennin Pedr yn chwyddo ein calonnau gyda balchder cenedlaethol drwy fisoedd cynnar y flwyddyn. Efallai nad yw eich gwanwyn chi ond yn dechrau nes i chi weld clychau’r gog yn lliwio’r meysydd a’r coedwigoedd yn las. Neu pan rydych chi’n sylwi ar y gwrychoedd yn rhedeg fel rhubanau gwyn ar draws ein bryniau – pan mae blodau’r drain wedi taflu gwisg wen drostynt.  

Un o flodau’r gwanwyn sy’n peri ochenaid o ryddhad i mi yw’r llygaid Ebrill. Ar ôl misoedd llwyd heb haul, maen nhw’n ymddangos o dan y coed ac ar ochrau’r ffyrdd, gyda’u blodau bach serennog melyn yn ein cyfarch fel yr haul ei hun. Yn perthyn i‘r un teulu a blodau menyn, mae gan lygaid Ebrill ddail bach gwyrdd tywyll, siâp calon, gyda marciau goleuach. Drwy gymryd mantais o’r golau haul cyn i ddail y coed agor, gallan nhw orchuddio llawr coedwig laith gyda blanced melyn-wyrdd.  

Yn ystod y nos ac ar ddyddiau llwm, bydd y blodau’n cau, ac ar ddiwedd eu cyfnod, bydd eu melyn llawen yn gwelwi. Ond ar ddiwrnod heulog, gwyrant at yr haul fel drych parabolig a chasglu gwres ei belydrau i’w canol. Defnyddid y cudynnau bach sy’n tyfu ar ei wreiddiau i wella clwy’r marchogion, ac mae cynnwys uchel fitamin C yn y dail ifanc yn llesol at y llwg.  

Sylwch fod enw sawl blodyn maes arall yn cychwyn gyda ‘llygad’: llygad doli, llygad y dydd, a llygad llo mawr. Ai dyma ein ffordd ni bobl i dynnu byd planhigion yn nes at ein calon drwy roi cymeriad cyfarwydd iddyn nhw? 

Os ydych chi’n hoffi blodau, mae llyfr Blodau Gwyllt yn werth ei gael. Gallwch hefyd ymweld â Llên Natur sy’n rhoi enwau rhywogaethau i chi yn Gymraeg a Saesneg. Mae ap Plantnet ar gael yn y Gymraeg er mwyn i chi adnabod planhigion gyda’ch ffôn clyfar pan ‘dach chi allan yn crwydro – mae’n bosibl cyfrannu at y gronfa o enwau Cymraeg hefyd os ydych chi’n arbenigwr! Mae prosiect Gwreiddiau Gwyllt a ariennir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth wrthi’n hel adnoddau byd natur yn y Gymraeg a bydd y gronfa ar gael i bawb mewn un man ar y we ar ddiwedd y prosiect. 

Termau anghyfarwydd efallai: 

Melyn y rhafnwydd – brimstone 
trilliw bach – small tortoiseshell 
clwy’r marchogion – piles 
y llwg – scurvy 

Llygaid Ebrill 

Pryd cychwynna’r gwanwyn i chi? Gyda’r eirlys yn y plwy? 
Neu yw’r cynffon wŷn yn datgan bod y golau’n para’n hwy? 
Ceirios gwyllt yn gwisgo’n bêr yn eu ffrog priodas lân, 
neu ella bod chi newydd sylwi: mwy o adar bach ar gân? 

Hwyrach, coed llawn blodau gwynt yw’r hyn sy’n gwneud chi’n llawen, 
Neu ddiwedd mis y clychau’r gog ar ddyddiau cyntaf cynnes iawn. 
Mae sawl cam ar ffordd i’r gwanwyn, a sawl blodyn ar y daith. 
Un o’ rhai sy’n codi gwên yw llygaid Ebrill coetir llaith. 
 
Braidd yn fuan, meddwch chi, llygaid Ebrill ym mis Chwefror, 
A briallu bach yn ‘rardd cyn i flwyddyn newydd agor… 
Beth yw’r newid, beth yw’r trywydd diarth drwy’r tymhorau, dywed? 
Gaeaf mwyn a gwanwyn cynnar, newid patrwm gwres a glaw, 
ydi’r cyfan yn arwyddo newid yn yr hinsawdd ddaw? 
Ond och, mae’n braf i weld y gwanwyn, i’w synhwyro, ac i’w glywed.