Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn falch o gyhoeddi lansiad prosiect gweithredu hinsawdd tair blynedd newydd. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Troi’r Llanw/Turning the Tide wedi derbyn £1,499,800 dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU. Nod y prosiect yw normaleiddio gwaith hinsawdd dan arweiniad y gymuned, sicrhau bod lleisiau sydd wedi’i ymyleiddio yn llunio penderfyniadau amgylcheddol, a helpu pobl i deimlo’n gryfach yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).

Gweithredu hinsawdd dan arweiniad cymunedol ledled Cymru

Nod y prosiect, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â thema Diwrnod Amgylchedd y Byd eleni (Galwad Fyd-eang am Weithredu Hinsawdd), yw dylanwadu ar weithredu hinsawdd dan arweiniad cymunedol trwy gyflwyno rhaglen (ddwyieithog) ledled Cymru i hyrwyddo gweithredu hinsawdd. Bydd yn cysylltu mentrau cymunedol i rannu arloesiadau ac arferion da, creu a chefnogi rhwydwaith o gyfoedion a hyrwyddwyr amgylcheddol, a lledaenu canlyniadau i lywio polisi ac arferion Cymru a’r DU.

I gyflawni hyn, bydd partneriaid yn cyflwyno rhaglen integredig o godi ymwybyddiaeth, meithrin gallu, cyd-gynhyrchu, a dulliau newid systemau. Bydd hefyd yn darparu cyngor technegol a chymorth wedi’i deilwra, cymorth ymarferol ar gyfer mentrau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, a hwb chyngor a gwybodaeth, wrth feithrin hyrwyddwyr amgylcheddol a rhwydwaith dysgu, cynnal cynhadledd flynyddol i gasglu a dysgu, a gyrru ymchwil werthusol ac ymgysylltu â pholisi.

Yn y pen draw, nod y prosiect yw cryfhau llythrennedd ac ymwybyddiaeth o’r hinsawdd, meithrin gallu ar gyfer gweithredu a chefnogi prosiectau dan arweiniad cymunedol wrth hyrwyddo trosglwyddiad cyfiawn a theg i ddyfodol mwy cynaliadwy. Drwy rannu straeon am weithredu lleol llwyddiannus, ac annog deialog polisi, bydd yn gweithio i sicrhau bod safbwyntiau cymunedol yn dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau. Nod y fenter yw tynnu ar gryfderau a rhwydweithiau ei phartneriaid cyflawni i gyrraedd y cymunedau byddant yn targedu, ac arwain pobl o sgyrsiau bob dydd i weithredu cynaliadwy ar yr hinsawdd ac effaith polisi ehangach.

Daw hyn o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, ymrwymiad hirdymor i gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn ymgysylltu’n uniongyrchol â miloedd o bobl ledled Cymru, gan gefnogi cymunedau mewn ardaloedd gwledig, trefol ac arfordirol, gyda ffocws penodol ar y rhai sy’n wynebu anfantais gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gan eu galluogi i droi syniadau’n atebion ymarferol – o brosiectau ynni a bwyd cymunedol i ddatblygu sgiliau, adfer natur ac arloesi carbon isel.

Partneriaeth cryf sy’n cyrraedd cymunedau amrywiol

Dywedodd Amanda Smith, Pennaeth Dysgu ac Addysg CyDA ac Arweinydd y Prosiect:

“Mae Troi’r Llanw / Turning the Tide, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn dwyn ynghyd gryfderau sefydliadau ledled Cymru i wneud gweithredu ar yr hinsawdd yn fwy hygyrch, perthnasol a chyflawnadwy i bawb. Yn CyDA, rydym mewn sefyllfa unigryw i arwain y rhaglen uchelgeisiol hon gan ein bod â dros 50 mlynedd o brofiad mewn addysg hinsawdd, ymgysylltu cymunedol ac atebion ymarferol, ond rydym yn gwybod bod newid go iawn yn digwydd pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth. Trwy gyfuno ein harbenigedd â chysylltiadau cymunedol dwfn ein partneriaid, gallwn gyrraedd ystod ehangach a mwy amrywiol o bobl, gan gefnogi cymunedau i feithrin y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i droi syniadau yn weithredu lleol parhaol.”

Trwy’r prosiect hwn, bydd CyDA yn darparu arweinyddiaeth strategol, arbenigedd hinsawdd, hyfforddiant a chymorth technegol — gan helpu cymunedau i symud o ymgysylltu cychwynnol i weithredu ymarferol cynaliadwy.

Bydd gweithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) yn galluogi’r prosiect i gyrraedd cymunedau ledled Cymru, gan eu hysbrydoli a’u galluogi i gymryd camau ymarferol, dan arweiniad lleol, ar newid hinsawdd – gan sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan effeithiau hinsawdd wrth wraidd yr ymateb.

Dywedodd Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru:

“Mae Mentrau Iaith Cymru’n gyffrous i gael bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn i ymbweru cymunedau i weithredu dros yr hinsawdd.  Mae sbarduno trafodaethau cyfrwng Cymraeg yn ein cymunedau yn rhywbeth mae’r mentrau iaith yn angerddol yn ei gylch.  Edrychwn ymlaen i feithrin partneriaethau newydd drwy’r prosiect er budd ein cymunedau.”

Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas:

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, gan weithio gyda’n partneriaid i gyrraedd cymunedau ledled Cymru a’u hysbrydoli i gymryd camau ymarferol, dan arweiniad lleol, ar newid hinsawdd.

Yng Nghwmpas, credwn y gall pawb yng Nghymru helpu i adeiladu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal. Dyna pam ei bod mor bwysig bod cymunedau’n teimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd rhan, gwneud penderfyniadau sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol, a chymryd camau ymarferol, yn enwedig mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r angen i leihau ein heffaith carbon. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ac yn edrych ymlaen at gefnogi cymunedau Cymru i droi eu syniadau arloesol yn gamau gweithredu ystyrlon.”

Dywedodd Helal Uddin o Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST):

“Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac i CyDA am y cyfle pwysig hwn i fod yn rhan o bartneriaeth Troi’r Llanw / Turning the Tide.

Yn EYST, rydym yn gweld bob dydd sut mae newid hinsawdd a heriau amgylcheddol yn croestorri ag anghydraddoldebau ehangach sy’n wynebu ein cymunedau. Trwy’r prosiect hwn, byddwn yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, teuluoedd a grwpiau cymunedol ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth, meithrin sgiliau ac ysbrydoli gweithredu sydd wedi’i wreiddio mewn gwerthoedd diwylliannol a chryfderau cymunedol. Drwy greu mannau diogel ar gyfer deialog, cyflwyno dysgu ymarferol a chefnogi hyrwyddwyr amgylcheddol lleol, ein nod yw sicrhau bod y rhai sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn sgyrsiau hinsawdd nid yn unig yn cael eu cynnwys, ond eu grymuso i arwain newid yn eu cymunedau. Credwn mai ein cyfrifoldeb ni i gyd yw gadael ôl troed amgylcheddol cadarnhaol ac etifeddiaeth barhaol i genedlaethau’r dyfodol.”

Gyda’i gilydd, mae’r partneriaid hyn yn dod â rhwydweithiau llawr gwlad helaeth, cysylltiadau dibynadwy ac arbenigedd dwfn mewn gweithio gyda chymunedau sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn sgyrsiau hinsawdd i’r prosiect. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau y gall y prosiect gwrdd â phobl lle maen nhw, gan gysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â phryderon bob dydd fel swyddi, costau ynni, iechyd a lles cymunedol.