Mewn dathliad byw o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg, mae Mentrau Iaith, ar y cyd â Radio Cymru 2 a Llywodraeth Cymru, yn annog campfeydd (‘gyms’) ledled Cymru i chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru, ar 7 Chwefror. Wrth baratoi ar gyfer y diwrnod arbennig hwn, bydd Radio Cymru 2 yn rhyddhau 4 rhestr chwarae unigryw o 30 munud yr un, yn llawn cerddoriaeth Gymraeg egnïol sy’n addas ar gyfer gyms. Bydd y rhestrau chwarae hyn, ar gael bob dydd o heddiw, 3 Chwefror ymlaen ar BBC Sounds dan y teitl “Traciau Dydd Miwsig Cymru”, neu trwy’r ddolen yma.

Mae gyms ar draws Cymru yn cymryd rhan yn llawn brwdfrydedd yn y fenter hon. Fydd y rhestrau chwarae hyn nid yn unig yn cyfoethogi’r profiad ymarfer corff ond hefyd yn hyrwyddo harddwch a bywiogrwydd cerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant.

“Mae’r ymgyrch hon yn gyfle gwych i ddod â cherddoriaeth Gymraeg i mewn i weithgareddau bob dydd ac i ddathlu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol mewn ffordd hwyliog a deniadol,” meddai Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru. “Rydym yn edrych ymlaen at weld campfeydd ledled Cymru yn ymuno â ni i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Ac rydym yn galw ar bawb yng Nghymru sy’n mynd i’r ‘gym’ ofyn i’w campfeydd nhw chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru.”

Gadewch i ni wneud Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad bythgofiadwy o gerddoriaeth Gymraeg, yr iaith Gymraeg a ffitrwydd eleni!

Y gyms sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch yn barod yw:

Morriston Leisure Centre, Abertawe
UTime Fitness, Abertawe
SE Fitness, Aberaeron
West Coast Fitness, Llanbedr Pont Steffan
SM9 Fitness, Caerfyrddin
Canolfannau Hamdden Sir Rhondda Cynon Taf
Canolfan Hamdden Crymych, Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych y Pysgod
Iechyd Da, Caerdydd
Halo ym Mhen-y-bont, Ynysawdre a Phencoed