Cynllun efo busnesau bach sy’n Hapus i Siarad Cymraeg efo dysgwyr ydy “Hapus i Siarad”. Mae’n rhoi cyfle i’r dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Rydym yn trefnu’r cynllun ar y cyd â´r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n yn fwy na llefydd i brynu pethau. Maen nhw’n llefydd i bobl gyfarfod ei gilydd, cael sgwrs a bod yn rhan o’r gymuned – lleoliadau gwych i ymarfer siarad Cymraeg.
Cynllun parhaus ydy Hapus i Siarad gafodd ei beilota yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Fflint a Wrecsam, a Cheredigion, a’i lansio’n genedlaethol am y tro cyntaf yn 2024-25.
Mae’r Mentrau Iaith yn parhau i weithio gyda’r busnesau ac ehangu’r cynllun i drefi ac ardaloedd newydd. Ar 15 Tachwedd, mewn Bore Hapus i Siarad bydd Mentrau Iaith a thiwtoriaid Cymraeg yn mynd â dysgwyr o gwmpas 9 tref yn Nghymru i gyflwyno’r cyfle i fwy o ddysgwyr.

Mae’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun yn arddangos poster “Hapus i Siarad” yn eu ffenestri neu wrth y til i ddangos eu bod yn hapus i groesawu dysgwyr am sgwrs yn Gymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!



Mae’r dysgwyr yn derbyn cerdyn teyrngarwch gan eu tiwtoriaid a’r Mentrau Iaith lleol i gasglu stamp neu lofnod gan 3 busnes lle maent wedi cael sgwrs yn Gymraeg. Bydd y cardiau yn mynd i mewn i gystadleuaeth am benwythnos preswyl mewn un o’r canolfannau Cymraeg yng Nghymru. O’r holl gardiau sy’n cael eu cyflwyno bydd yr enillydd yn cael eu tynnu o’r het mewn digwyddiad ar 3 Awst yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Glas.
Mae cyfle i’r dysgwyr anfon eu cardiau tan 17 Gorffennaf 2026 trwy e-bost at post@mentrauiaith.cymru neu eu cyflwyno i’w tiwtoriaid.


Dyma’r busnesau ar draws Cymru sy’n “Hapus i Siarad”.
Gogledd Orllewin
Mae mae llawer o fusnesau mewn llawer o drefi yng Ngwynedd yn Hapus i Siarad. Gallwch chi weld yr holl fusnesau yng Ngwynedd ar wefan Menter Iaith Gwynedd.


Gogledd Ddwyrain


Powys, Ceredigion a Sir Gâr









Sir Benfro


Gwent


Morgannwg



Bae Abertawe


Caerdydd a’r Fro


Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.